Mae’r Ystadegydd Gwladol wedi awgrymu y bydd y Cyfrifiad nesaf, sydd i’w gynnal yn 2021, yn cael ei gynnal ar y we yn hytrach nag fel holiadur papur.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cydnabod y byddai angen cymryd gofal arbennig i gefnogi’r rhai na fyddai’n gallu cwblhau’r Cyfrifiad ar-lein, ond yn ôl y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, mae angen “moderneiddio’r ffordd y gwneir pethau.”

Yn 2010, gofynnodd Awdurdod Ystadegau Prydain i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ymchwilio i bosibiliadau gwahanol i’r Cyfrifiad traddodiadol yng Nghymru a Lloegr.

Lluniwyd dau argymhelliad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol – y cyntaf yn ddull ar-lein yn bennaf a’r ail yn ddull Data Gweinyddol, sy’n dibynnu ar ddefnyddio data gweinyddol sydd eisoes ar gael o fewn llywodraeth.

Yn ôl Jane Hutt:  “Mae data’r Cyfrifiad yn bwysig i Lywodraeth Cymru ac i nifer o ddefnyddwyr yng Nghymru, a byddai pryderon wedi bod ynghylch lleihad posibl yn ansawdd data a fyddai’n cael ei gasglu drwy ddull gwahanol i’r Cyfrifiad.

“Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidog Swyddfa’r Cabinet yn cadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r dull hwn.”