Yr Hen Gapel, Llwynrhydowen
Mae hen gapel a fu’n flaenllaw yn hanes Anghydffurfiaeth wedi derbyn nawdd gwerth dros £200,000 tuag at ei adnewyddu.

Bydd y nawdd yn cael ei ddefnyddio i greu amgueddfa ddigidol yn yr Hen Gapel yn Llwynrhydowen, Ceredigion, a llwybr treftadaeth ffydd er mwyn i bobol ddysgu am hanes Anghydffurfiaeth.

Saif y capel rhwng Llandysul a Llanbed, yng nghanol ardal oedd yn cael ei galw’n ‘Smotyn Du’ gan Fethodistiaid gan mai achos yr undodwyr oedd gryfaf yn lleol. Llwynrhydowen oedd capel Arminaidd cyntaf Cymru, a throdd nifer o gapeli Arminaidd yn rhai undodaidd maes o law.

Bu ewythr y bardd Dylan Thomas, Gwilym Marles, yn weinidog ar y capel tan i’r tirfeddiannwr lleol droi’r gynulleidfa allan yn 1876 am nad oedd yn cytuno gyda daliadau radical y gweinidog. Cododd yr aelodaeth gapel newydd gerllaw, a bu’r Hen Gapel yn ysgoldy ac yn llyfrgell am gyfnod cyn cael ei roi yn nwylo Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru yn 2008.

Dyfodol

Derbyniodd Addoldai Cymru nawdd o £84,100 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, £67,451 gan raglen Fframwaith Twristiaeth Ddigidol, a £50,000 gan Cadw tuag at brosiect yr Hen Gapel.

Dywedodd Dafydd Owen Cadeirydd Addoldai Cymru, ei fod yn “ddatblygiad eithriadol o arwyddocaol yn rhaglen gyfredol Addoldai Cymru i sicrhau y rhan unigryw hon o’n treftadaeth genedlaethol.”

Yn ôl y Cynghorydd Peter Davies, sy’n aelod o Gyfeillion yr Hen Gapel , bydd “y prosiect hwn yn dod â’r dreftadaeth arwyddocaol hon i fywyd ac yn sicrhau dyfodol yr adeilad.”