Fe fydd chwech o ddynion yn mynd gerbron Llys Ynadon Llanelli bore ma ar gyhuddiad o gynllwynio i ddosbarthu cyffuriau dosbarth A.

Dywed Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw wedi cynnal ymchwiliad i werthu cyffuriau dosbarth A, cocên yn bennaf, yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac ardal de Cymru.

Yn ystod yr ymchwiliad fe wnaethon nhw ddarganfod kilo o gocên.

Cafodd y chwech eu harestio gan yr heddlu ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron ynadon bore ma.

Y chwech yw David James Lloyd Evans, 41 oed, o Sanclêr, Caerfyrddin; Jenkin Anthony Davies, 54, o Gynwyl Elfed, Caerfyrddin; Greg Ian McKenzie, 28, o Flaenwaun, Hendy-gwyn; Thomas Charles Salmon, 33, o Arberth; David Campbell, 57, o Benbedw; a Richard Andrew Houghton, 30, o St Helen’s, Glannau Merswy.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd, Huw Davies “swm sylweddol” o gyffuriau wedi’i ddarganfod.

“Mae taclo cyffuriau dosbarth A yn flaenoriaeth i’r heddlu ac fe fyddan ni’n targedu unrhyw un sy’n dod â chyffuriau i’r ardal.”