Yn dilyn sylw a fu dros y penwythnos ar ôl i weithiwr mewn siop ddillad yng Nghaerdydd fynd ar y we i wneud sylw negyddol am yr iaith, mae Radio Wales wedi corddi’r dyfroedd drwy gynnal trafodaeth ar y pwnc heddiw.

Y cwestiwn a holwyd ar raglen Oliver Hydes ar Radio Wales y bore ma oedd: “A ydy’r iaith Gymraeg yn eich cynddeiriogi chi?”

Roedd y drafodaeth yn dilyn yr ymateb a fuodd ar y we wedi  i aelod o staff y siop Hobo’s, sy’n gwerthu dillad vintage yng Nghaerdydd, wneud sylw ar ei dudalen Facebook ynglŷn â’r ffaith bod dau gwsmer yn siarad Cymraeg yn y siop.

Dywedodd ei fod wedi penderfynu troi sŵn y gerddoriaeth i fyny er mwyn peidio â’u clywed gan fod yr iaith “yn mynd ar ei nerfau.” Mae bellach wedi ymddiheuro am ei sylwadau.

‘Pa wlad arall fyddai’n cwestiynu gwerth ei hiaith?’

Er bod perchennog siop Hobo’s hefyd wedi ymddiheuro am sylwadau’r aelod o staff ac yn dweud ei fod wedi ei “frawychu” gan y sylwadau, mae nifer o bobl wedi mynd ar y wefan rhyngweithio gymdeithasol Twitter y bore ma i fynegi siom bod Radio Wales wedi corddi’r dyfroedd drwy gynnal trafodaeth o’r fath.

Maen nhw’n credu bod y drafodaeth yn ymfflamychol.

Dywedodd y darlledydd Catrin Beard ar Twitter ei bod hi’n rhaglen dorcalonnus a gofynnodd pa wlad arall yn y byd fyddai’n “cwestiynu gwerth ei hiaith ei hun?”

Gofynnodd Elin Roberts hefyd os oes yna “wledydd eraill yn y byd yn cynnal trafodaethau radio ar sail y cwestiwn ‘Ydi’n iaith ni’n c**p?’”

Roedd llawer o’r sylwadau ar y rhaglen y bore ma yn rhai o blaid yr iaith ac roedd un gwrandawr  yn credu bod cynnal y drafodaeth o gwbl yn beth trist iawn. Ond roedd eraill yn meddwl bod gormod o arian yn cael ei wario ar yr iaith Gymraeg a dywedodd gwrandawr arall bod Cymru wedi dioddef yn economaidd oherwydd bod pobl ddim eisiau dod i Gymru i weithio oherwydd yr iaith.

‘Trafodaeth gytbwys’ – BBC

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Mae Morning Call yn gyfle i wrandawyr Radio Wales gymryd rhan mewn trafodaeth amserol am faterion o’r newyddion sydd yn aml yn rhai dadleuol. Yn sicr, nid ein bwriad oedd awgrymu bod y safbwynt yn un dilys, na chwaith yn un oedd y rhaglen yn ei gefnogi o gwbl.

“Fe wnaeth y rhaglen ei hun gyflwyno trafodaeth gytbwys dros gyfnod o awr, gan leisio nifer eang o safbwyntiau. Ry’n ni’n derbyn y gallai un o’n negeseuon Twitter fod wedi ei eirio’n well er mwyn adlewyrchu bwriad golygyddol y rhaglen.”