Mae undeb athrawon yr NUT wedi rhybuddio “nad yw gwersi wedi cael eu dysgu” ers lansio rhaglen i wella llythrennedd a rhifedd ymhlith plant Cymru yn 2013.

Cafodd y profion eu beirniadu gan Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr y llynedd, ac mae’r NUT yn dweud fod pryderon ymysg athrawon y sector eleni hefyd.

Ymysg y pryderon hynny mae llwyth gwaith ychwanegol i athrawon, yr effaith ar drefn dysgu a’r diffyg gwybodaeth am welliant plentyn.

Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn derbyn £7m gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys profion darllen a rhifedd cenedlaethol i ddisgyblion Blwyddyn 2 i Flwyddyn 9 o fis Medi 2014. Cafodd ei lansio ym mis Mawrth y llynedd.

‘Dim wedi newid’

Wrth siarad am y profion, dywedodd Ysgrifennydd NUT, David Evans:

“Roedd pryder am gynnwys a dyluniad y profion y llynedd, ond nid oes dim wedi newid ers hynny.

“Roedd athrawon yn teimlo eu bod yn amharu ar drefn dysgu disgyblion, yn enwedig y rhai ifanc, a hefyd yn teimlo nad oedd y profion yn rhoi unrhyw wybodaeth am welliant plentyn.

“Dangosodd arolwg nad oedd 86% o aelodau yn credu fod y profion yn berthnasol i fywydau’r disgyblion ‘chwaith. Mae’n rhaid cymryd sylw o hyn os ydym ni am weld canlyniadau da.

“Wrth feddwl am y llwyth gwaith cynyddol sy’n wynebu athrawon, a’r effaith mae hyn yn ei gael ar eu hiechyd, nid yw hyn yn rhywbeth i’w ddiystyru.”

Mae’r NUT wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i nodi’r pryderon sydd wedi dod gan aelodau yn y sector.