Mae gwefan newydd wedi ei lansio heddiw er mwyn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

Mae’r bardd Menna Elfyn, y dramodydd Bethan Marlow, a’r gwleidydd Nerys Evans ymysg y rheini sydd wedi cyfrannu at y wefan.

Mae Be di gender yn Gymraeg? wedi’i sefydlu er mwyn “annog trafodaeth” ar bynciau sy’n ymwneud â bywydau merched, a gwneud hynny “mewn cyd-destun ffeministaidd”.

Mae blogiau byrion wedi’u cyhoeddi ar y wefan heddiw gan ferched sy’n sôn am y menywod sydd wedi dylanwadu arnyn nhw.

“Roedd yna wagle amlwg ar gyfer trafodaeth ffeministaidd yn y Gymraeg,” meddai Mari Sion o Aberystwyth, sylfaenydd y wefan.

“Fe wnaethon ni ddefnyddio’r gwagle hwnnw fel sbardun.

“Dw i’n derbyn fod gen i lot mwy o opsiynau na menywod 100 mlynedd yn ôl. Ond, mae yna fwlch rhwng cyflogau dynion a merched o hyd.

“Mae yna gymaint i’w wneud, a chymaint i’w drafod. Dydan ni heb gyrraedd cydraddoldeb eto.”

Gobaith Mari Sion yw y bydd y wefan yn “codi ymwybyddiaeth am ymgyrchoedd ac achosion” merched.

“Dydw i ddim yn trio dweud mai hwn yw’r ateb, ond o leiaf mae’n annog trafodaeth,” meddai.

“Efallai bod rhaid pobol ofn y gair ffeministiaeth. Ond mae angen cymryd balchder ynddo,”  meddai.

Dywedodd fod yr ymateb heddiw wedi bod yn “anhygoel” a’i bod yn gobeithio cadw’r wefan i fynd.

‘Braint’

Dywedodd un o’r cyfranwyr, y dramodydd Bethan Marlow o Fethel, wrth Golwg360 fod pethau wedi gwella i ferched dros y degawd diwethaf.

“Ond os wyt ti’n fam sengl mae’n gallu bod yn anodd. Mae yna lot o waith i’w wneud o hyd ac mae cael yr un cyfle a dyn yn dal i gael ei ystyried yn fraint.”

Dywedodd ei bod yn “anodd credu” y camargraff sydd gan rhai pobol ynglŷn â ffeministiaeth. “Mae’n drist ac yn ystrydebol”.

“Dw i’n gobeithio y bydd y wefan yn annog trafodaeth ac yn newid agweddau,”  meddai.