Y dyfodol - mwy o Cyw?
Mae rhai o gynhyrchwyr teledu annibynnol Cymru wedi beirniadu cynlluniau S4C ar gyfer y dyfodol yn dilyn cyfarfod dros y penwythnos.

Cafodd cynlluniau penaethiaid y sianel ar gyfer y blynyddoedd ar ôl 2011 eu cynnig i’r cynhyrchwyr mewn cyfarfod yn Llandrindod dros y Sul.

Roedd pedwar opsiwn i’r cynhyrchwyr eu hystyried ar gyfer y dyfodol ac mae’r sianel wedi rhoi pythefnos iddyn nhw ymateb i’r cynlluniau.

Ond dywedodd dau o gynhyrchwyr teledu annibynnol Cymru oedd yn y cyfarfod fod cynlluniau S4C i geisio newid y sianel yn “diffygiol”.

Dywedodd Ron Jones, cadeirydd cwmni Tinopolis, wrth Golwg 360 mai “camgymeriad” yw’r cynlluniau sy’n cael eu cynnig gan S4C ar gyfer dyfodol y sianel wedi 2011.

Roedd Iestyn Garlick, cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, hefyd yn anhapus mai’r cyfarfod oedd y tro cyntaf i’r sector gael gwybod am y cynlluniau.

“Doedd neb wedi gweld dim o flaen llaw,” meddai Iestyn Garlick, “ac mae’n siomedig na fu trafodaeth gyda’r sector na’r gynulleidfa cyn I S4C gynnig y ‘weledigaeth’”.

Mae Golwg 360 wedi cysylltu gydag S4C ond yn dal i ddisgwyl ymateb.

‘Cwrteisi’

Dywedodd Ron Jones fod S4C wedi dangos “diffyg cwrteisi” wrth beidio trafod y cynigion gyda theledwyr annibynnol Cymru cyn eu cyflwyno, a bod hynny wedi tanseilio’r ‘Weledigaeth’.

Dywedodd y dylai S4C fod wedi dechrau gyda “dadansoddiad o’i wasanaeth cyhoeddus ac anghenion y gynulleidfa.

“Mae’r ddogfen,” meddai, “yn rhoi gormod o bwyslais ar fecanwaith comisiynu.”

“Pan fod y broses yn ddiffygiol, r’ych chi’n ffeili cymryd y cynigion o ddifrif,” meddai.

Y pedwar cynnig

• Y newid mwya’ drastig fyddai amserlen  gwbl agored, lle byddai pob cwmni’n cystadlu am bob awr, a phris yr awr ar gyfartaledd o £10,800. Mae cyfresi craidd ar hyn o bryd yn costio mwy na £43,000.

• Fe fyddai’r ail opsiwn yn golygu cael rhaglenni meithrin ac un rhaglen gylchgrawn yn ystod y dydd, rhaglen i blant a phobol ifanc tros 11 oed ddechrau min nos, cyfresi rheolaidd ac un awr amrywiol yn yr oriau brig rhwng saith a deg ac ailddarlledu Pobol y Cwm am ddeg rhwng nos Lun a nos Iau ac ar nos Sul.

Fe fyddai nos Sul hefyd wedi ei seilio ar “grefydd a diwylliant”, gydag un gyfres ddrama a rhaglenni addysg a dysgwyr yn y prynhawn.

Fe fyddai pris rhaglenni’n syrthio tuag £20,000 yr awr, gyda llawer rhagor o gyfresi hir, craidd, a dim ond tua pedair awr yr wythnos o “oriau rhydd” ar gyfer rhaglenni eraill.

• Fe fyddai’r newid lleia’n golygu cadw at yr un oriau a’r un math o amserlen ag ar hyn o bryd, ond gyda thoriad o fwy na 28% yn y gwario ar raglenni.

• Fe fyddai’r opsiwn ola’n golygu rhaglenni meithrin trwy’r dydd – heb raglen gylchgrawn fel Wedi 3 – ychydig mwy o gyfresi hir, craidd a bron bump awr rydd bob wythnos o raglenni amrywiol. Fe fyddai’r gostyngiad ym mhris rhaglenni fesul awr yn llai.

‘Dim un’

Dywedodd Ron Jones nad oedd o’r farn y byddai’r un o’r pedwar cynnig yn gweld golau dydd yn y pen draw.

“Y farn gyffredinol yn y cyfarfod ddydd Sul oedd bod pob un o’r opsiynau yn ddiffygiol,” meddai.

“Alla’i ddim dychmygu y bydden nhw’n bwrw ymlaen gyda’r un o’r opsiynau ’ma.”

Dywedodd Iestyn Garlick mai opsiwn dau “yw’r unig un sydd ag unrhyw gig iddo”.

“Ond gydag opsiwn dau, mae pryder y bydd yr oriau brig i gyd yn mynd i’r BBC, gan adael rhyw awr a hanner yn y canol i’r sector annibynnol.”

Mae’r opsiwn olaf yn cynnig cael gwared ar raglen gylchgrawn – tebyg i Wedi 3 – gan roi rhaglenni plant ar y sianel trwy gydol y dydd.

Dywedodd Ron Jones, Tinopolis, nad oedd hyn yn “pasio’r prawf synnwyr cyffredin.”

Ychwanegodd Iestyn Garlick na fyddai’r opsiwn cyntaf uchod, gydag amserlenni gwbl lân, yn cynnig unrhyw sicrwydd i gwmnïau teledu annibynnol.