Llys Ynadon Llanelli
Mae gweinidog gyda’r Annibynwyr yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei gyhuddo o gyflawni trosedd ryw ar blentyn.

Cafodd Gwyn Ieuan Morgan, 82 o Gaerfyrddin, ei arestio ym mis Medi.

Yr honiad yw fod y drosedd wedi ei chyflawni ar fachgen dan 14 oed yn yr 1980au.

Fe fydd Gwyn Morgan yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ar Ebrill 3.

Bu’n weinidog yng nghapeli Bryn Iwan ger Cynwyl Elfed a Moreia ym Mlaenwaun ger San Clêr am dros 40 o flynyddoedd.

Cafodd ei atal o’i waith ar ôl iddo gael ei arestio.