Enid Rowlands - yr enw tebygol
Mae Golwg 360 yn aros am gadarnhad mai un o gyn aelodau Awdurdod S4C a bwrdd y BBC yng Nghymru sydd wedi ei phenodi’n Gadeirydd newydd ar y sianel Gymraeg.

Yn ôl ffynonellau yn y byd darlledu, Enid Rowlands sydd wedi ei phenodi i’r swydd ar ôl cyfweliadau yr wythnos ddiwetha’. Ond dyw hyn ddim wedi ei gadarnhau.

Doedd llefarydd yn yr Adran Ddiwylliant yn Llundain ddim yn fodlon dweud un ffordd na’r llall. Doedden nhw ddim yn fodlon trafod “dyfalu”, meddai.

Ond fe gadarnhaodd bod y cyfweliadau wedi eu cynnal ac mai’r cam nesa’ fyddai bod yr enw’n cael ei roi i’w gadarnhau gan y Prif Weinidog, David Cameron.

Datrys problemau

Os yw’r stori’n wir, fe fydd Enid Rowlands yn cymryd lle John Walter Jones a ymddiswyddodd ar ôl ffraeo chwerw rhyngddo a gweddill yr Awdurdod.

Ei phrif dasgau fydd datrys problemau diweddar y sianel ac arwain y trafodaethau rhyngddi hi a’r BBC – fe fydd y sianel yn mynd dan adain ariannol y Gorfforaeth.

Mae Golwg 360 yn deall hefyd fod yr Is-gadeirydd presennol, Rheon Tomos, a chyn Brif Weithredwr y sianel, Huw Jones, ymhlith y rhai a oedd yn y ras.

Profiad hir

Mae gan Enid Rowlands brofiad hir o weithio yn y maes cyhoeddus, yn swyddog cyflog ac yn eistedd ar wahanol fyrddau.

Yn ogystal â bod yn gyn aelod o Awdurdod S4C ac o Gyngor Darlledu’r BBC yng Nghymru, mae ar hyn o bryd yn aelod o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, o Consumer Focus trwy wledydd Prydain, o’r Cyngor Meddygol Cyffredinol a’r Comisiwn Gwybodaeth.

Mae ei chefndir ym maes hyfforddiant  a busnes – fe fu’n Brif Weithredwr un o’r TECs addysgol ac yn bennaeth Awdurdod Datblygu Cymru yn y Gogledd. Fe fu hefyd yn Gadeirydd ar Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru.