Gethin James
Yn ôl adroddiadau, mae cynghorydd ar Gyngor Ceredigion wedi ymddiswyddo o’r grŵp annibynnol sydd mewn clymblaid gyda Phlaid Cymru.

Cafodd Gethin James ei ddiswyddo o’r cabinet ar ôl cyhoeddi ei fod e wedi ymuno â phlaid UKIP.

Yn gynharach, fe gyhoeddodd ei fwriad i sefyll dros UKIP yn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2016.

Ddechrau’r wythnos, penderfynodd arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwyn fod yn rhaid ei ddiswyddo o’r Cabinet ar ôl iddo ymuno â phlaid UKIP.

Dywedodd Plaid Cymru ddoe bod rhaid i Gethin James ymddiswyddo o’r grŵp er mwyn i’r glymblaid barhau.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad, Leanne Wood yng nghynhadledd y blaid yr wythnos hon fod pleidleisio tros UKIP yn golygu pleidleisio yn erbyn Cymru.

Beirniadu Plaid Cymru

Yn ei lythyr yn ymateb i ddatganiad Ellen ap Gwyn, dywedodd Gethin James nad yw e “erioed wedi gweithio yn erbyn buddiannau Ceredigion”.

Ychwanegodd: “I’r gwrthwyneb, fi oedd yr aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am y llwybr arfordirol tra ei fod yn cael ei adeiladu ac rwy’n llwyr gefnogi anfon cymaint o arian trethdalwyr y DU yn ôl i Gymru a’r DU [ag sy’n bosibl].”

Yn ei lythyr, mae’n beirniadu Plaid Cymru am y byddai’n rhaid iddyn nhw “ymbil ar yr Undeb Ewropeaidd am aelodaeth, ac fe fyddwn ni i gyd yn defnyddio’r Ewro fel arian”.

Dywedodd ei fod yn cwestiynu pam fod cymaint o arian yn cael ei wario yn Ewrop bob dydd.