Mae ymholiad cyhoeddus i gais dadleuol i godi fferm wynt yn Abertawe wedi cychwyn heddiw.

Dyma ail gais y cwmni ynni adnewyddadwy RWE i godi fferm wynt ar Fynydd y Gwair, ger Felindre,  ar ôl i’r cais gwreiddiol gael ei wrthod yn 2008.

Fe wnaeth y penderfyniad gwreiddiol arwain at gyfres o apeliadau a bu’r Uchel Lys a Llywodraeth Cymru ynghlwm yn y dadlau.

Mae’r tir comin, sydd tua wyth milltir i’r gogledd o dref Abertawe, yn eiddo i Ddug Beaufort ac mae RWE yn bwriadu codi tua 16 o dyrbinau gwynt yno.

Mae tri thyrbin yn llai nag yn y cais gwreiddiol, ac nid oes tyrbin yng nghanol y mawn dyfnaf, sydd o bwys amgylcheddol medd ymgyrchwyr.

Mae cwmni RWE wedi dweud eu bod nhw eisoes wedi buddsoddi’n helaeth yng Nghymru a bod potensial i wario £1 biliwn o’r newydd petai nhw’n cael caniatâd i godi rhagor o ffermydd gwynt.