Mark James
Mae angen i weinidogion weithredu ar frys yn dilyn cadarnhad gan Gyngor Sir Gâr y bydd Prif Weithredwr y cyngor, Mark James, yn dychwelyd i’w swydd fel Swyddog Canlyniadau Lleol ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd fis nesaf.

Yn ôl Jonathan Edwards, sy’n Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Gaerfyrddin a Dinefwr, ni ddylai rhywun sy’n cael eu cysylltu ag ymchwiliad heddlu gael bod yn gyfrifol am orchwylio’r etholiad.

Ond yn ôl Cyngor Sir Gâr mae’r rôl yn wahanol i’w swydd fel Prif Weithredwr.

Mae Mark James wedi gadael ei swydd dros dro ar ôl iddo ef, ynghyd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Benfro Bryn Parry Jones, gael eu cyhuddo o dderbyn taliadau “anghyfreithlon” o hyd at £50,000.

Mae Heddlu Swydd Gaerloyw bellach yn ymchwilio i’r ddau achos.

Ymyrryd

Dywedodd  Jonathan Edwards: “Mae hi’n fater o bryder mawr fod Prif Weithredwr Cyngor Sir Gar yn cael parhau yn ei waith fel Swyddog Canlyniadau, er nad yw yn ei waith ar hyn o bryd,” meddai.

“Alla’ i ddim deall o gwbl sut y gall person sydd ddim bellach wrth ei ddesg oherwydd ymchwiliad heddlu, fod yn gyfrifol am yr etholiadau yn fy sir i.”

“Mae’r un peth yn wir am Sir Benfro, ac rwy’n galw ar weinidogion i ymyrryd ar frys.”

Cefndir

Daw’r cyhuddiadau yn dilyn dau adroddiad damniol gan Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Ionawr, oedd yn dweud bod uwch-swyddogion cynghorau Sir Gâr a Sir Benfro wedi derbyn taliadau “anghyfreithlon”.

Roedd Cyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Benfro wedi rhoi taliadau ariannol i’w uwch-swyddogion – yn hytrach na chyfraniadau pensiwn, am resymau treth.

Fe wnaeth Mark James gytuno i gamu o’r neilltu am y tro wrth i’r heddlu yn Swydd Gaerloyw ymchwilio i’r taliadau, ond mae’n mynnu nad yw  wedi gwneud dim o’i le.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gar: “Mark James fydd y Swyddog Etholedig yn yr etholiadau nesaf. Mae hyn yn rôl wahanol i’w swydd fel Prif Weithredwr.”