Tommo, Shan Cothi a Dylan Jones
Mae amserlen newydd Radio Cymru wedi dechrau heddiw, gyda chyflwynwyr newydd yn ymuno â’r orsaf.

‘Tommo’, sef Andrew Thomas o Aberteifi, fydd un o’r lleisiau newydd hynny ynghyd â’r ddarlledwraig Shân Cothi – a bydd rhaglenni John Hardy, Heledd Cynwal a Daf a Caryl yn dod i ben.

Bydd  Dylan Jones yn aros ar yr awyr i gyflwyno rhaglen newydd ar ôl Post Cyntaf tan 10am, a bydd y cyflwynwr ifanc newydd Guto Rhun yn arwain rhaglen C2 am 7 o’r gloch – ar ôl iddo gael ei ddewis yn sgil yr ymgyrch ‘Cais am Lais’.

Mae Golygydd Rhaglenni BBC Cymru, Betsan Powys, wedi dweud y bydd y newidiadau yn gwneud yr orsaf yn fwy perthnasol i bobl Cymru:

“Fe fydd pob math o leisiau ar yr orsaf, pob un yn hoff lais i rywun, a phob un yn siarad Cymraeg rhywun”, dywedodd.

“Mae’n amser cyffrous i’n gwrandawyr ac i dimau’r rhaglenni.”

Er hyn, mae Betsan Powys yn derbyn na fydd pob rhaglen yn apelio at bawb, “ond fe fydd pob un yno i bwrpas, i apelio at rywun”, meddai.

Yr Amserlen Newydd

5am – 6am: Rhaglenni amrywiol

6am – 8am: Post Cyntaf gyda Kate Crockett a Dylan Jones

8am – 10am: Dylan Jones

10am – 12pm: Bore Cothi gyda Shân Cothi

12pm – 12.30pm: Rhaglenni sy’n holi a phrocio

12.30pm – 1pm: Rhaglenni Nodwedd/Drama

1pm – 2pm: Taro’r Post gyda Garry Owen

2pm – 5pm: Tommo (o ddydd Llun i ddydd Iau) a Tudur Owen (dydd Gwener)

5pm – 6pm: Post Prynhawn gyda Dewi Llwyd

6pm – 6.15pm: Pigion

6.15pm – 7pm: Rhaglenni Dogfen/Nodwedd

7pm – 10pm: C2

10pm – 12am: Geraint Lloyd