Cyngor Sir Benfro
Mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, Bryn Parry Jones yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder heddiw.

Mae’n wynebu ymchwiliad gan yr heddlu i daliadau heb eu hawdurdodi i weithwyr y Cyngor, yn dilyn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae e wedi parhau yn ei swydd tra bo’r ymchwiliad yn parhau, ond mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, sydd hefyd yn rhan o’r un ymchwiliad, wedi camu o’r neilltu dros dro.

Heddlu Swydd Gaerloyw sy’n ymchwilio i’r honiadau.

Fis diwethaf, galwodd Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr, Angela Burns arno i adael ei swydd dros dro, gan ychwanegu y dylid cynnal ymchwiliad annibynnol i’w ymddygiad.

Roedd disgwyl i’r Cyngor llawn bleidleisio fis diwethaf ar ei ddiarddel o’i waith, ond cerddodd nifer o gynghorwyr allan o’r cyfarfod gan honni bod y penderfyniad eisoes wedi cael ei wneud.

Mae Bryn Parry Jones wedi gwadu ei fod wedi camymddwyn.

Fe fydd toriadau o £20 miliwn hefyd yn cael eu trafod yn y cyfarfod heddiw, ac mae disgwyl i dreth y cyngor godi 3.4%.