Michael Kennedy
Mae dyn 35 blwydd oed fu farw ar ôl gwrthdrawiad traffig ar Ffordd Penarth, Caerdydd ddydd Sul wedi’i enwi.

Roedd Michael Kennedy, oedd yn byw yn lleol, yn gyrru nôl ar feic modur Honda du CBR 900 tua 5.40pm ddydd Sul pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Gwrthdarodd â cherbyd Ford Maverick 4 x 4 coch ar gyffordd Ffordd Penarth a Clive Street.

Dywedodd ei wraig Ellen Kennedy fod Mike yn “ŵr, tad a brawd  rhyfeddol,” yn “fab a brawd yng nghyfraith ffantastig” ac y byddai “colled fawr ar ei ôl”.

Mae swyddog Heddlu’n cefnogi aelodau agosaf teulu Michael Kennedy ac mae’r crwner wedi’i hysbysu. Ni anafwyd gyrrwr 66 blwydd oed y cerbyd  4×4 coch.

Fe gafodd y ffordd ei chau am ychydig oriau wrth i’r Heddlu ymchwilio.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu â’r Heddlu ar 101, neu â Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.