Taflenni ymgyrch Ie Dros Gymru (Llun Plaid Cymru)
Mae un o Gynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion wedi dweud ei fod yn “rhy brysur” i ymgyrchu dros bleidlais “Ie” yn y refferendwm yr wythnos diwethaf.

Ac, yn ôl Paul Hinge, sydd yn cynrychioli Tirmynach (sef ardal Bow Street), mae curo Plaid Cymru yn Etholiad Cynulliad mis Mai yn bwysicach iddo na’r refferendwm ar bŵerau’r Cynulliad.

Yr wythnos diwethaf, honnodd cyn-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru, Penri James, bod “distawrwydd” Paul Hinge ynglŷn a’r refferendwm wedi bod yn “llethol”, er mai polisi swyddogol y Democratiaid Rhyddfrydol oedd cefnogi ‘Ie’ dros Gymru.

Nid oedd Paul Hinge wedi ymateb i gohebiaeth gan Penri James, na Golwg chwaith. Ond fe lwyddodd Golwg i siarad â’r cynghorydd Hinge yng Nghynhadledd ei blaid yng Nghaerdydd, er mwyn rhoi cyfle iddo fe ymateb i’r stori.

“O ran ymgyrchu, mae gwaith fy hunan gennyf i’w wneud, felly nid wyf wedi cael yr amser i wneud yr ymgyrchu.”

Mae gan Paul Hinge mwyafrif tenau o 14 pleidlais yn ward Tirmynach (sef ardal Bow Street, ger Aberystwyth).

“Cyn hir, bydd gennym ni etholiad arall, ac rwyf yn mynd i fod yn ymwneud yn ddwfn iawn yn hynny. Hynny sydd bwysicach”, meddai, cyn rhybuddio Plaid Cymru i beidio â chysylltu ymgyrch y refferendwm gydag Etholiad y Cynulliad.

“Mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymgyrchu dros bleidlais ‘Ie’, felly gallwch chi ddim defnyddio hynny fel arf i fwrw cocyn hitio.”