Clawr The Phenonmenon of Welshness
Mae cyfrol newydd o erthyglau am Gymru gan Siôn Jobbins yn addo “cyflwyno cymhlethdod yr hunaniaeth Gymreig i gynulleidfa newydd”.

The Phenonmenon of Welshness’ yw teitl y gyfrol. Yr is-bennawd yw ‘How many aircraft carriers would an independent Wales have?’.

Mae’r is-bennawd yn deillio o gwestiwn heriol a ofynnwyd i Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins, ar raglen Dragon’s Eye, BBC Wales, yn ystod ymgyrch etholiadol 2007.

“Dwi wedi ceisio ateb y cwestiwn yna,” meddai Siôn Jobbins, “drwy holi a ddylai Cymru fod yn wlad lawn, ac os y’n ni’n dymuno hynny, faint fyddai hynny’n costi i ni.”

Ond mae e’n awyddus i bwysleisio fod y gyfrol yn cwmpasu bob math o bynciau yn ymwneud â Chymru.

Mae’r llyfr yn cynnwys 25 erthygl a ysgrifennwyd i gylchgrawn Cambria dros y ddegawd ddiwethaf, wedi eu cyflwyno gyda’i gilydd am y tro cyntaf gan awdur sydd yn barod i rannu ei olwg unigryw ar Gymru’r gorffennol, a’r dyfodol.

“Llyfr hanes y pethau bychain yw hwn,” meddai’r awdur o Aberystwyth. Mae’r penodau yn amrywio o drafodaeth am hiliaeth honedig y Cymry, i sefydlu Dydd Santes Dwynwen i ddathlu nawddsant cariadon Cymru.

Llyfr i agor llygaid

Mae Siôn Jobbins yn gobeithio y bydd lansiad y llyfr, diwrnod wedi’r refferendwm ar bwerau’r Cynulliad,  yn rhoi cyfle i bobl gymryd munud i ystyried rhai o’r camau anghofiedig sydd wedi cyfrannu at gyrraedd lle’r ydyn ni heddiw.

“Mae e’n trafod Cymru’r gorffennol a Chymru heddiw,” meddai, “ac mae e’n llyfr i agor llygaid pobl.”

Gobaith Siôn Jobbins yw y bydd y gyfrol yn llawlyfr da i’r rhai sydd eisiau dysgu mwy am Gymru, o dramorwyr, i rai sy’n dysgu Cymraeg, i bobl sydd eisiau gweld agwedd newydd ar ddigwyddiadau sy’n cael eu hanghofio yn aml yn hanes hir Cymru.

“Mae e’n gyfle i lenwi’r bylchau yn yr hanes sy’n cael ei ddysgu i blant,” meddai.

Cyhoeddwyd‘‘The Phenonmenon of Welshness’ or ‘How many aircraft carriers would an independent Wales have?’’ ar 4 Mawrth gan Wasg Carreg Gwalch, £7.50.