Mae nifer o fudiadau wedi lansio grŵp ymbarél newydd bore ma er mwyn ymgyrchu i achub S4C.

Yn y lansiad am 10.30am heddiw roedd y mudiad newydd yn beirniadu Llywodraeth San Steffan am anwybyddu galwadau arweinwyr y pleidiau yng Nghymru am adolygiad llawn o’r sianel.

Y mudiadau sydd wedi creu’r grŵp ymbarél sydd am sefydlu S4C ‘newydd’ ydy BECTU, NUJ, Undeb yr Ysgrifenwyr, Equity, Undeb y Cerddorion, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae’r grwpiau ymgyrch wedi lansio dogfen polisi ymgynghorol sydd yn galw ar wleidyddion am:

• Adolygiad llawn o’r strwythur y sianel fel gofynnwyd gan arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru ac i dynnu S4C allan o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus

• S4C aml-gyfryngol newydd gyda rôl glir i Lywodraeth Cymru yn y sianel

• Fformiwla gyllido annibynnol ar gyfer y sianel Gymraeg, ar sail chwyddiant ac mewn statud.

• Annibyniaeth dros reoli ac annibyniaeth olygyddol lwyr i S4C heb ymyrraeth oddi wrth y BBC na’r Llywodraeth mewn statud.

• Ychwanegu at yr adnoddau sydd ar gael i’r sianel drwy godi ardoll ar ddarlledwyr preifat yn dilyn esiampl gwledydd eraill.

Angen ‘trafodaeth genedlaethol’

“Mae’r cynlluniau hyn yn peryglu dyfodol ein hunig sianel deledu,” meddai David Donovan  o Ffederasiwn yr Undebau Adloniant.

“ Rydym yn gandryll fod Llywodraeth San Steffan wedi dewis anwybyddu yn llwyr galwad gan arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru am adolygiad o’r sianel, yn hytrach na chynlluniau munud-olaf ac annoeth Jeremy Hunt.

“Mae ’na ffordd arall ymlaen i’n hunig sianel teledu Cymraeg sydd yn hollbwysig i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

“Dyna’r hyn rydym wedi ceisio amlinellu yn ein dogfen polisi ymgynghorol – mae angen trafodaeth genedlaethol ar le’r Gymraeg yn y cyfryngau yn hytrach na syniadau twp y Llywodraeth yn Llundain.”

Dywedodd Roger Williams ar ran Undeb yr Ysgrifenwyr fod y syniadau yn y ddogfen yn rhai “cyffrous iawn”.

“Mae’n dangos bod syniadau amgen am y ffordd ymlaen i’r sianel,” meddai.

“ Mae S4C yn fuddsoddiad unigryw yn yr iaith Gymraeg ac yn gonglfaen i’r diwylliant Cymraeg. Mae cannoedd o sianeli erbyn hyn ar ein sgriniau ac mae’n bwysig iawn i ni fedru cael y sicrwydd o weld a chlywed y Gymraeg ar S4C.

“Un o’r prif resymau dros ymgyrchu am sianel Gymraeg yn y saithdegau oedd i’r Gymraeg ymestyn i gyfryngau newydd ac nad oedd yn cael ei gweld fel iaith hen ffasiwn, ac mae S4C wedi bod rhan fawr o’r newid meddylfryd yna a rhoi hyder newydd yn nyfodol y Gymraeg.

“Rydyn ni’n pryderu fod y gostyngiad yng nghyllideb S4C yn mynd i effeithio ar safon y rhaglenni a ddarperir. Rhaid cael arian teg er mwyn cynnal a datblygu’r amrywiaeth o raglenni sydd ar gael.

“Heb arian digonol, ni fydd y sianel yn gallu cystadlu â sianeli prif-ffrwd eraill o ran safon a chreadigrwydd. Wrth dorri arian S4C, rydych nid yn unig yn dirywio’r gwasanaeth ond yn peri ergyd uniongyrchol i’r iaith Gymraeg a fydd mewn sefyllfa fregus heb gyllideb gyflawn.”