Huw Stephens, yn o sefydlwyr Gwyl Sŵn
Gwyl Sŵn a gafodd ei henwi yr Wyl Fechan Orau yng ngwobrau’r cylchgrawn roc NME neithiwr.

Sefydlwyd gŵyl Sŵn, sy’n cael ei chynnal mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd, gan John Rostron a’r DJ Radio 1 Huw Stephens a oedd hefyd yn cyflwyno’r noson.

Roedd y bleidlais yn agored i’r cyhoedd ac yn cynnwys dwy ŵyl gerddorol Gymreig arall – Gwyl Rhif 6 ym Mhortmeirion a Gŵyl y Dyn Gwyrdd – yn ogystal a gwyliau Kendall Calling yng ngogledd Lloegr, Rockness yn yr Alban a Y Not sy’n cael ei chynnal yn Swydd Derby.

Y band o Sheffield Arctic Monkeys oedd prif enillwyr y noson gan ennill y Band Prydeinig Gorau, y Band Byw Gorau a’r Albwm Gorau.

Lily Allen gafodd ei henwi yr Artist Unigol Gorau a Paul McCartney’n cipio’r wobr am y Sgwennwr Gorau.

Gallwch weld y rhestr gyfan o enillwyr ar wefan NME.