Mi fydd pedwar cyngor sir yng Nghymru yn cwrdd i drafod eu cyllidebau heddiw.

Wrth i gynghorau wynebu toriadau mawr, maen nhw’n gorfod ystyried cael gwared a nifer o wasanaethau yn y sir a chodi ffioedd ychwanegol am eraill, gan gynnwys treth cyngor.

Mi fydd cynghorau Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili a Wrecsam yn ystyried codi’r dreth rhwng 3% a 4.5%

Rhondda Cynon Taf

Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf yn ystyried cynnydd o 4.5% yn y dreth gyngor er mwyn arbed £70 miliwn dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd aelodau’r cabinet hefyd yn trafod cwtogi ar wasanaethau hamdden y sir yn ogystal ag amgueddfeydd, goleuadau stryd a gwneud newidiadau i brisiau gofal cymdeithasol i oedolion.

Mae’r cyngor eisoes wedi cymeradwyo toriadau a fydd yn golygu bod plant yn dechrau addysg llawn amser flwyddyn yn ddiweddarach nag y maen nhw ar hyn o bryd.

Yn dilyn cwynion gan nifer o rieni, mi fydd y newidiadau yn dod i rym ym mis Medi yn hytrach na mis Ebrill fel yr oedd y cyngor wedi bwriadu gwneud yn wreiddiol.

Merthyr Tudful

Mae Cyngor Sir Merthyr Tudful yn ystyried cynnydd o 4% yn y dreth gyngor er mwyn arbed £15 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Un argymhelliad arall gan gabinet y cyngor yw dileu cludiant am ddim i ddisgyblion dros 16 oed yn Ysgol Gyfun Rhydywaun yn y Rhondda, sydd wedi ennyn gwrthwynebiad cryf.

Ar ddechrau’r mis, fe wnaeth dros 350 o bobl orymdeithio trwy strydoedd Merthyr Tudful i brotestio yn erbyn cynlluniau’r cyngor i arbed £15.3m dros y tair blynedd nesaf.

Wrecsam

Bydd rhaid i aelodau cabinet Cyngor Sir Wrecsam ystyried cynnydd o 3% yn y dreth gyngor er mwyn arbed £45m dros y pum mlynedd nesaf.

Fe wnaeth y cyngor gymeradwyo cau canolfan hamdden Plas Madoc yn Acrefair ar Chwefror 12.

Mae gwrthwynebiad cryf wedi bod i fwriad y cyngor, gyda dros 2,000 o bobol yn arwyddo deiseb yn erbyn cau’r ganolfan a channoedd o bobol yn protestio y tu allan i swyddfeydd y Cyngor yr wythnos diwethaf.

Mae’r argymhellion eraill yn cynnwys cau Byd Dŵr (Waterworld) a chau campfeydd Ysgol Clywedog a Queensway.

Caerffili

Yn ogystal, bydd rhaid i aelodau cabinet Cyngor Sir Caerffili ystyried cynnydd o 3.9% yn y dreth gyngor gan fod y cyngor yn wynebu toriad o oddeutu 3% neu £8.46m mewn nawdd gan lywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol nesa’.

Ond does dim disgwyl pleidlais ar y cynigion heddiw.