Y cyfrif Twitter ffug
Mae cyfrif Twitter ffug ar gyfer ‘Llywodraeth Cymru’ wedi cael ei wahardd gan y wefan gymdeithasol – ar ôl cwyn gan y sefydliad go iawn.

Mae’n ymddangos nad oedd Llywodraeth Cymru yn hapus â’r cyfrif ffug, oedd wedi bod yn trydar rhai o straeon gwefan www.llywodraethcymru.org sydd hefyd yn un ffug.

Gwefan iawn Llywodraeth Cymru yw www.wales.gov.uk/?lang=cy.

Roedd y cyfrif ffug yn cynnwys llun o logo Llywodraeth Cymru gydag wyneb y Prif Weinidog Carwyn Jones yn gwgu drosto.

Yn y darn oedd yn disgrifio’r cyfrif Twitter roedd un gair yn unig – ‘Delifro’.

“Darparu gwybodaeth”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru – y corff swyddogol, hynny yw – wrth golwg360 eu bod nhw wedi “darparu gwybodaeth” i Twitter ynglŷn â’r cyfrif ffug.

Fe benderfynodd y wefan gymdeithasol atal y cyfrif yn sgil hynny oherwydd ei fod yn torri eu rheolau.

Fodd bynnag, mae’r wefan ffug yn dal i fodoli, gyda’r gweinyddwr yn dweud wrth golwg360 y byddai rhagor o ddiweddariadau’n ymddangos arno cyn hir.

Mae Twitter yn adnabyddus am gynnwys nifer o gyfrifon ffug neu ‘spoof’ o bobl enwog a sefydliadau, sydd yn aml yn trydar yn gellweirus ac yn gwneud hwyl ysgafn am eu pwnc.

Mae nifer bychan o’r rhain hyd yn oed yn llwyddo i ddenu mwy o ddilynwyr na’r unigolion a sefydliadau swyddogol y maen nhw’n ei ddynwared.