Mae 2% yn fwy o Gymry yn ymwybodol o’r newidiadau arfaethedig i system rhoi organau Cymru, o’i gymharu hefo mis Mehefin 2013, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Er hyn, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn pryderu nad yw pedwar o bob deg o bobol yn dal i fod yn ymwybodol o’r newidiadau arfaethedig i’r system a fydd yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2015.

Yn ôl ymchwil diweddar a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, 59% o bobol oedd yn gwybod y bydd system newydd yn ei gwneud yn orfodol i bawb dros 18 oed sydd wedi bod yn byw yng Nghymru am o leiaf blwyddyn, gyfrannu organau ar ôl eu marwolaeth, os nad ydyn nhw’n dweud fel arall.

Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ddarganfod fod gostyngiad yn nifer y bobol a fyddai’n cydymffurfio hefo’r system o ganiatâd tybiedig o 20% i 15%.

Roedd gostyngiad hefyd yn nifer y bobol a ddywedodd eu bod yn cefnogi’r newid, gan ostwng o 61% i 57%. Dywedodd 16% eu bod yn erbyn y cynllun, gyda 27% ddim yn rhoi barn bendant.

Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar agweddau’r cyhoedd tuag at y system organau newydd, cyn i Lywodraeth Cymru lansio ymgyrch gyhoeddus ar y newidiadau. Bydd mwy o ymchwil yn cael ei wneud  yn ddiweddarach eleni a fydd yn monitro faint o bobol sy’n ymwybodol o’r newidiadau.

Mae disgwyl i’r system newydd fod yn ei le erbyn mis Rhagfyr 2015 ar ôl i ASau bleidleisio o blaid y cynllun y llynedd.

‘Hanfodol’ i godi ymwybyddiaeth

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghrymu ei bod yn hanfodol i’r cyhoedd deall fod newid ar droed os yw’r system am lwyddo:

“Mae’n bryderus mai dim ond 59% o bobol sy’n ymwybodol o’r system newydd. Mae’n amlwg fod gan y Llywodraeth lawer o waith i’w wneud i esbonio’r newidiadau cyn i bethau newid yn 2015.”

Ond yn ôl y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, mae hi’n bositif fod mwy o ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd: “Mae’n wych gweld fod ymwybyddiaeth y cyhoedd wedi cynyddu ond mae gwaith i’w wneud o hyd  i gael y ffigyrau yma hyd yn oed yn uwch.

“Mae rhoi organau yn achub bywydau ac rydym yn gobeithio y bydd y newidiadau i’r gyfraith yn lleihau amser aros y bobol sy’n disgwyl am organau.”