Y Cae Ras
Fe fydd trafodaethau’n digwydd yn ystod y dyddiau nesa’ i achub clwb pêl-droed Wrecsam a stadiwm y Cae Ras.

Fe fydd hynny’n cynnwys y wraig fusnes, Stephanie Booth, sydd wedi ei dewis i arwain cynnig i brynu’r clwb, y stadiwm a’r  cae hyfforddi.

Fe gyhoeddodd hi hynny ei hun cyn gêm y clwb ddydd Sadwrn ac mae wedi addo cynnwys cefnogwyr mewn menter gymunedol.

Fe agorodd amlen yn datgelu dymuniadau’r perchnogion presennol, Geoff Moss ac Ian Roberts.

Dim unigolyn

Y nod, meddai Stephanie Booth, fyddai gwneud yn siŵr na fydd hi’n bosib i un person fod yn berchennog ar y clwb yn y dyfodol.

Fe fydd Cyngor Sir Wrecsam hefyd yn cefnogi’r trafodaethau gyda disgwyl y bydd angen tua £5 miliwn i ddatblygu’r Cae Ras.

Yn ôl Arweinydd y Cyngor, Aled Roberts, mae’n rhy gynnar eto i ddweud faint yn union fydd y swm ac a fyddan nhw’n gwneud cais am gefnogaeth gan Lywodraeth y Cynulliad.

Cefnogwyr yn barod i drafod

Roedd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam hefyd wedi gwneud cynnig i brynu’r clwb; maen nhw hefyd wedi cael trafodaethau gyda Stephanie Booth ac wedi dweud eu bod yn awyddus i siarad ymhellach.

Mae Stephanie Booth ei hun yn gymeriad lliwgar. Fe gafodd lawdriniaeth i newid ei rhyw ac roedd yn destun cyfres deledu a fu’n ei dilyn wrth ei gwaith yn berchennog ar bum gwesty yn ardal Wrecsam.