Arwydd Heddlu'r De
Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion ar ôl i yrrwr beic modur gael ei ladd mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.

Roedd y dyn lleol 35 oed wedi marw yn y fan a’r lle ar ôl i’w feic Honda fod mewn gwrthdrawiad gyda cherbyd Ford Maverick 4×4.

Doedd gyrrwr y cerbyd, sy’n 66 oed, ddim wedi ei anafu yn y digwyddiad ar gyffordd Stryd Clive a Ffordd Penarth yn ardal Grangetown.

Roedd y beic Honda du’n teithio i gyfeiriad canol y ddinas.

Fe fu’r ffordd ar gau am rai oriau wrth i’r heddlu ymchwilio ac maen nhw’n gofyn i unrhyw un a welodd y ddamwain i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.