Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad
Mae Llywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas, wedi galw am ddiddymu Swyddfa Cymru – a hynny ar unwaith.
Dywed nad oes gan Swyddfa Cymru, a gafodd ei sefydlu yn 1964, lawer o bwerau ar ôl yn sgil y bleidlais o blaid hawliau deddfu i’r Cynulliad yn y refferendwm yr wythnos ddiwethaf.
“Byddai’n ddefnyddiol Swyddfa Cymru gael ei dirwyn i ben cyn i lywodraeth nesaf y Cynulliad gael ei hethol,” meddai.
“Perthynas rhyng-lywodraethol a rhyng-adrannol ddylai fod rhwng llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd o hyn ymlaen.
“Byddai hyn yn golygu mai Gweinidogion Cymru fyddai’n cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Prydain ar faterion o bolisi.
“Dyna sy’n digwydd i raddau helaeth eisoes, fel yn achos trydaneiddio’r rheilffordd i dde Cymru, lle mae’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros Drafnidiaeth wedi chwarae rhan flaenllaw.”
Dywedodd Dafydd Elis-Thomas hefyd ei fod yn gobeithio fod canlyniad “diamwys” y refferendwm wedi datrys sefyllfa gyfansoddiadol Cymru am amser maith.
“Yn sicr does arna i ddim eisiau gweld refferendwm arall ar frys,” meddai.