Nick Griffin
Fe fydd plaid asgell dde eithafol, y BNP, yn targedu gogledd Cymru yn etholiadau’r Cynulliad.

Mae cadeirydd y blaid, Nick Griffin, sy’n byw ym Mhowys wedi anfon neges at gefnogwyr y BNP yn gofyn am ymdrech arbennig i ennill sedd ranbarthol yno.

Ond mae’r blaid y mae’n eu galw yn “brif wrthwynebwyr” wedi condemnio’r sylwadau. Yn ôl Plaid Cymru fe fyddan nhw’n ymladd i wrthod “negeseuon afiach” y BNP.

“Gwrthododd pobl Cymru gwleidyddiaeth hiliol NIck Griffin a’i griw dro ar ôl tro yn etholiadau’r gorffennol,” meddai eu prif ymgeisydd yn y Gogledd, Llŷr Huws Gruffydd.

“Dw i’n hyderus iawn y bydd Cymru unwaith yn rhagor yn gwrthod y math yma o hilaeth a chasineb yn etholiadau’r Cynulliad fis Mai.”

Gwrth-Islam

Mae’r llythyr electronig hefyd yn cynnwys neges wrth-Foslemaidd gan ddweud fod y wlad yn cael ei Hislameiddio.

Mae’r BNP yn honni eu bod wedi dod o fewn ychydig tros 2,500 o bleidleisiau i gipio sedd y tro diwetha’, gyda phleidlais gre’ yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.

Yn ôl Nick Griffin, mae Plaid Cymru – “ein prif wrthwynebwyr” – wedi mynd yr un peth â phob plaid arall.

“Maen nhw bellach yn rhan o’r un Dosbarth Gwleidyddol sy’n camreoli ymhobman arall,” meddai. “Maen nhw’n coleddu’r un nonsens PC ac yn rhoi pobol gyffredin y tu ôl i leiafrifoedd, sy’n cael hawliau a gwarchodaeth arbennig ganddyn nhw.”

‘Dim lle i’r BNP’

Ond roedd Llŷr Huws Gruffydd yn wfftio’r sylwadau.

“Does dim lle yng Nghymru i wleidyddiaeth y BNP,” meddai. “Bydd Plaid Cymru yn parhau i ymgyrchu ochr yn ochr â sefydliadau a phleidiau eraill i wrthod negeseuon afiach y BNP.”