Emma Taylor, prifathrawes Coleg Crist, Aberhonddu
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu sylwadau prifathrawes gan ddweud nad oes gan ysgolion preifat “ddealltwriaeth o anghenion Cymru na’r Gymraeg”.

Roedd Emma Taylor, sydd wedi bod yn brifathrawes ar Goleg Crist, Aberhonddu, ers 2007 yn siarad gyda’r Western Mail pan ddywedodd bod angen i rai disgyblion gael eu “hachub” o ysgolion Cymraeg.

Ychwanegodd y dylai myfyrwyr o Gymru fynd i Brifysgol tu hwnt i glawdd offa a bod meddylfryd y Cymry i’w feio am fethiannau mewn addysg.

Fe wnaeth ei sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru ddatgelu cynlluniau newydd ar gyfer newid y system addysg yng Nghymru.

‘Niweidiol’

Fe wnaeth Emma Taylor hefyd gwestiynu sail sgôr isel Cymru yn yr arolwg addysg fyd-eang, Pisa, ond ychwanegodd bod “rhywfaint o wirionedd bod Cymru ar ei hol hi.”

Meddai: “Byddai ymchwil i rôl yr iaith Gymraeg mewn addysg yn dda, gan fod honno’n un gwahaniaeth rhwng ysgolion Cymraeg a Saesneg.

“Rydym yn dod ar draws disgyblion sydd wir wedi bod angen cael eu hachub o amgylchedd lle maent yn ceisio dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cael dim byd ond trafferth, gyda llythrennedd er enghraifft.

“Os oes gennych chi anhawster dysgu penodol ac yn gorfod dysgu mewn iaith sydd ddim yn famiaith, gall fod yn niweidiol, yn bendant.”

Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni o’r farn na ddylid amddifadu’r un plentyn o gael manteision addysg Gymraeg a Chymreig.

“Dyna pam rydyn ni’n dweud y dylai Llywodraeth Cymru gael gwared ag ysgolion preifat gan nad oes ganddyn nhw ddealltwriaeth o anghenion Cymru na’r Gymraeg. Mae’r sylwadau diweddar hyn ond yn tanlinellu ein bod ni’n gywir.”

‘Anwybodaeth ronc’

Wrth ymateb i’r sylwadau dywedodd Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith: “Mae hi’n siomedig iawn bod Emma Taylor yn cynnig sylwadau di-sail ac anghywir am addysg yng Nghymru.  Mae canran uwch o lawer o fyfyrwyr o Gymru’n mynd i brifysgolion y tu allan i’w gwlad nag o unrhyw un arall o wledydd y Deyrnas Unedig.  Mae’r sefyllfa’n gwbl wahanol i’r hyn mae Emma Taylor yn ei honni.  Os oes problemau addysgol yng Nghymru, maen nhw’n gysylltiedig â thlodi a difreintedd yn hytrach na dim arall.

“Mae sylwadau Emma Taylor am ‘achub’ disgyblion o addysg Gymraeg yn dangos anwybodaeth ronc.  Mae canlyniadau ysgolion Cymraeg yn gyffredinol yn rhagori ar rai ysgolion Saesneg, er na fyddwn am wneud môr a mynydd o hyn. Byddem yn croesawu ymchwil i rôl y Gymraeg mewn addysg, a byddai’r canlyniadau’n debygol o fod yn wahanol iawn i ragfarnau Mrs Taylor.”

‘Rhieni yn pleidleisio gyda’u traed’

Dywedodd Ceri Owen, swyddog datblygu RHaG (Rhieni Dros Addysg Gymraeg): “Nid yw’r honiad y dylai disgyblion gael eu ‘hachub’ rhag ysgolion cyfrwng Cymraeg yn adlewyrchu’r sefyllfa sydd ohoni yng Nghymru heddiw.

“Mae’r galw am addysg Gymraeg yn parhau i gynyddu, yn arbennig felly yn yr ardaloedd mwy Seisnigedig. Mae rhieni yn pleidleisio gyda’u traed.”