Andrew R T Davies
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi cael ei gyhuddo o rwygo’i blaid ar ôl rhoi’r sac i bedwar llefarydd mainc flaen.
Fe weithredodd Andrew R T Davies ar ôl i’r pedwar bleidleisio yn erbyn y chwip ac yn erbyn ei bolisi ef ar ddatganoli.
Yr enw amlyca’ o’r pedwar yw Nick Ramsay, AC Mynwy, a’r gŵr a safodd yn erbyn Andrew Davies am yr arweinyddiaeth.
Fe gafodd ef ac AC Aberconwy, Janet Finch-Saunders, a’r ddau aelod rhestr Antoinette Sandbach a Mohammad Asghar glywed ddoe eu bod wedi eu diswyddo.
Yn ôl Antoinette Sandbach, roedd hi’n drueni bod Andrew Davies yn dewis rhannu ei blaid.
Y cefndir
Achos yr helynt oedd pleidlais yn y Cynulliad ddoe tros y posibilrwydd o ddatganoli treth incwm.
Mae’r Ceidwadwyr yn San Steffan o blaid datganoli peth treth incwm ond gyda chyfyngiad a fyddai’n rhwystro Llywodraeth Cymru rhag amrywio’r dreth rhwng gwahanol fandiau.
Mae Andrew R T Davies a’r holl bleidiau yn y Cynulliad yn erbyn hynny ac roedd y Ceidwadwyr wedi gosod chwip ar y bleidlais am hynny ddoe.
Fe bleidleisiodd y pedwar yn erbyn.