Dr Huw Morgan
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi enw enillydd gwobr newydd a fydd yn cael ei dyfarnu’n flynyddol i unigolion dan 40 oed sy’n gwneud cyfraniad sylweddol ym maes Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Enillydd cynta’ Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan yw Dr Huw Morgan, darlithydd mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe fydd yn derbyn ei wobr yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg yng Nghaerfyrddin ar Chwefror 18.

Seryddiaeth a chysawd yr haul yw prif arbenigedd yr academydd o Lanbrynmair. Cafodd ei benodi i swydd ddarlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth o dan nawdd y Coleg yn 2011 wedi cyfnod o weithio fel Ymchwilydd Gwyddonol ym Mhrifysgol Hawaii.

‘‘Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd mawr i mi,” meddai Huw Morgan. “Rwy’n ddiolchgar iawn i deulu Eilir am sefydlu’r wobr gan ei fod yn gam pwysig i annog Cymry Cymraeg ifanc i ddewis a dilyn gyrfa wyddonol.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r Coleg Cymraeg am ddarparu’r cyfle i mi barhau â gyrfa ym maes gwyddoniaeth ac i fedru addysgu fy mhwnc gyda phobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Cymrodorion

Yn ystod y Cynulliad, bydd pedwar ysgolhaig blaenllaw hefyd yn derbyn Cymrodoriaeth gan y Coleg er mwyn cydnabod eu cyfraniadau i addysg uwch cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd.

Bydd Cyn bennaeth Astudiaethau Ieithyddol Prifysgol Morgannwg, Cennard Davies yn derbyn cymrodoriaeth gan y Coleg fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad sylweddol i faes Cymraeg i Oedolion ag addysg Gymraeg yng nghymoedd Morgannwg a thu hwnt.

Yr Athro Elan Closs Stephens yw’r ail, am ei gwaith yn yr Adran Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bu’r Dr Alison Allan yn gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru am dros ugain mlynedd lle bu’n brif gyswllt gyda’r prifysgolion ar faterion yn ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg. Chwaraeodd ran allweddol yn y camau a arweiniodd at sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

A’r pedwerydd yw Cyfarwyddwr cyntaf Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, Dr Cen Williams – prifardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala yn 1997.  Yn ystod ei gyfnod ar secondiad gydag Uned Datblygu Addysg Gymraeg, Prifysgol Cymru bu’n gyfrifol am sefydlu sawl menter sydd bellach yn parhau o dan adain y Coleg Cymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys hybu darpariaeth gydweithredol a sefydlu paneli pwnc sydd yn rhoi cyfle i academyddion cyfrwng Cymraeg gyd-drafod a chyd-gynllunio.