Mae’r refferendwm ar ben ond wrth i Gymru ymateb i’r canlyniadau mae gwleidyddion Bae Caerdydd eisoes yn cynllunio at y dyfodol.

Nesaf ar yr agenda mae Etholiadau’r Cynulliad, ar 5 Mai, ac fe fydd y pleidiau oedd law yn llaw heddiw wrthio’n colbio ei gilydd unwaith eto yfory.

Plaid Cymru sydd â’r her fwyaf wrth nesáu at yr etholiad. Mae bron i bob un o addewidion Cymru’n Un wedi eu gwireddu ac mae angen addo rhywbeth newydd i’r genedl.

Yn ôl gohebydd Golwg, Carwyn Tywyn, o’r Senedd, roedd aelodau Plaid Cymru o’r farn nad dyma’r amser i wthio am ragor o bwerau eto o fewn y Cynulliad nesaf.

Mae angen amser i’r pwerau yma setlo i lawr, meddai’r Aelod Cynulliad Jocelyn Davies. Nid yma’r amser i son am annibyniaeth – ond beth i’w wneud â grymoedd newydd y Cynulliad.

Ond yn ôl Ron Davies o Blaid Cymru, un targed amlwg oedd cael gwared ar y fformiwla Barnett sy’n penderfynu faint o arian sy’n cael ei roi i Gymru a’r Alban bob blwyddyn.

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn fwy parod i drafod y cam nesa’ – gydag ambell un yn awgrymu fod angen y grym i godi neu ostwng lefelau trethi ar y Cynulliad.

Dywedodd yr Arglwydd Roberts o Landudno fod ei blaid yn San Steffan hefyd yn trafod y posibilrwydd o symud cyfrifoldeb dros S4C o’r Adran Ddiwylliant i’r Swyddfa Gymreig.

Ond dywedodd Leighton Andrews nad oedd yn mynd i dalu gormod o sylw i alwadau’r Dems Rhydd am bwerau trethi. Roedd yn disgwyl i glywed yr un alwad “gan bobol fydd yn y Cynulliad ar ôl mis Mai,” meddai.

I bwy mae’r diolch?

Dywedodd Elin Jones, Aelod Cynulliad Plaid Cymru yng Ngheredigion, bod lle i ddiolch i’r Ceidwadwyr am sicrhau’r fuddugoliaeth ‘Ie’.

Roedden nhw wedi gwneud gwaith da wrth argyhoeddi rhai fyddai wedi galw am bleidlais ‘Na; i gadw’n dawel, meddai.

Roedd Ron Davies yn llai diolchgar i’r pleidiau eraill, gan ddweud mai Plaid Cymru oedd wedi gwneud yr holl waith caib a rhaw yng Nghaerffili.

Wfftiodd Jane Davidson hynny gan ddweud y byddai buddugoliaeth heb y Blaid Lafur wedi bod “yn amhosib”.

Ond roedd gan yr Arglwydd Roberts ei syniad ei hun am pam fod cymaint o’r Gymru wedi pleidleisio Ie – Only Men Aloud. Roedd y cantorion wedi arwain at ragor o hunan hyder yn y genedl, meddai.

Dim ond yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas oedd yn dal dig tuag at fudiad Gwir Gymru ymgyrchodd dros bleidlais ‘Na’. Roedd hefyd yn flin â’r cyfryngau am roi cyfle iddyn nhw gael dweud eu dweud.

Roedd pawb arall fel pe baen nhw wedi anghofio am Gwir Gymru yn barod.