Y Bandana
Gall chwarae gig yn Nulyn y penwythnos yma fod yn ffordd wych i rai o fandiau mwyaf Cymru hyrwyddo’r sin roc Gymraeg yn Iwerddon, yn ôl trefnydd y noson.

Bydd Y Bandana, Yr Ods a Candelas yn chwarae gig arbennig yn The Village, Dulyn, nos Sadwrn yma – ar yr un diwrnod y bydd disgwyl cannoedd o gefnogwyr Cymru yn y ddinas ar gyfer y gêm Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon.

Ac yn ôl Aled Ifan o Cacwn, y cwmni digwyddiadau sydd wedi trefnu’r noson, fe fydd hi nid yn unig yn gig arbennig i’r Cymry fydd allan yno, ond yn gyfle hefyd i’r Gwyddelod fwynhau ychydig o gerddoriaeth eu cefndryd Celtaidd.

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig i ni fynd a cherddoriaeth Gymraeg allan o Gymru,” esboniodd Aled Ifan wrth golwg360. “Mae gennym ni gerddorion da o fewn y sin, ac mae’n bwysig ein bod ni’n mynd a fo allan a chymryd y cyfle yma gan fod y rygbi ymlaen.

“Dwi ddim yn meddwl fod yr un o’r bandiau wedi chwarae yn Nulyn o’r blaen, felly mae’n rhywbeth newydd iddyn nhw.

“Ond gobeithio y bydd hyn yn gychwyn ar bethau, ac nad ydi o’n ‘one-off’, ond bod ’na gyfleoedd i wneud lot mwy o hyn yn y dyfodol.

“Da ni’n disgwyl cynulleidfa mwyafrif Cymreig, ond gobeithio bydd y Gwyddelod yn gweld torf fawr yn gwylio bandiau Cymraeg eu hiaith a sylwi fod y sin yn bodoli.

“Da ni wedi hyrwyddo tuag at y cyfryngau Gwyddelig eu hiaith, yn ogystal ag o gwmpas Dulyn, er mwyn ceisio denu Gwyddelod hefyd.”

Roedd y ffaith fod y gêm fawr yn digwydd ar yr un diwrnod yn ffactor mawr yn y penderfyniad i gynnal y gig – mae’r lleoliad rhyw 10 munud ar droed o ardal Temple Bar – yn Nulyn.

Ond mae Aled Ifan yn gobeithio y gall gigiau tramor y dyfodol allu cynnal eu hunain heb orfod dibynnu ar y rygbi.

“Mae dwy ochr iddi – mae gen ti’r hook rygbi yn amlwg,” cyfaddefodd Aled Ifan. “Ond yn gyffredinol dwi’n meddwl bod angen edrych ar gael cerddorion Cymraeg i deithio’n rhyngwladol, a gobeithio bydd y gig yma’n ddechrau ar hynny a’n bod ni’n gallu gwneud yn y dyfodol yn annibynnol o’r rygbi.”

Bydd y gig sy’n cynnwys Yr Ods, Bandana a Candelas yn digwydd yn The Village, Wexford St, Dulyn ar nos Sadwrn 8 Rhagfyr, gyda’r drysau’n agor am 7.30yh.

Mae tocynnau o flaen llaw ar gael am £8 o wefan www.cacwn.com/tocynnau, neu am €18 wrth y drws ar y noson.