Huw Stephens
Ar ôl saib o flwyddyn, mae Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr yn dychwelyd i Landeilo yn yr haf.

Ymysg y rhai sy’n cymryd rhan, mae’r gantores Charlotte Church; y DJ Radio 1 a Radio Cymru Huw Stephens; yr awdur a’r bardd Owen Sheers; bardd cenedlaethol Cymru Gillian Clark; yr arbenigwr hanes Rhys Mwyn a’r band gwerin Plu.

Ac yn ôl y trefnwyr, mi fydd yn “un dathliad mawr o greadigrwydd geiriau, cerddoriaeth a’r dirwedd drawiadol.”

Bydd yr ŵyl yn rhedeg o ddydd Gwener, 20 Mehefin i ddydd Sul 22 Mehefin.

‘Awyrgylch hudol’

Mae’r rhaglen gerddoriaeth lawn ar gyfer yr ŵyl eto i’w chyhoeddi ond dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Mae’r golygfeydd godidog a’r hanes diwylliannol sy’n amgylchynu’r hen safle fel niwl yn creu awyrgylch hudol iawn, lle gall pethau anhygoel ddigwydd.

“Gydag enwau newydd yn cael eu cyhoeddi bob wythnos mae’r rhaglen yn mynd yn well a gwell: allwn ni ddim aros tan fis Mehefin.”

Mae tocynnau ar gael ar wefan: www.gwyllenyddiaethdinefwr.co.uk