Lindsay Whittle - ymgyrchydd cyson yn y maes
Fe fydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio’r wythnos nesa’ ar y syniad o wneud taro plant yn gwbl anghyfreithlon.

Mae AC Plaid Cymru, Lindsay Whittle, yn cyflwyno gwelliant i fesur – y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol – sy’n mynd gerbron y Cynulliad.

Mae’n dadlau na ddylai rhieni fod â’r hawli daro plant ac mae ACau wedi pleidleisio o blaid yr egwyddor ddwy waith o’r blaen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu, gan ddweud y dylen nhw fod yn ymynghori gyda’r cyhoedd cyn gwneud newid o’r fath.

‘Ddim yn iawn’

Fe fu Lindsay Whittle, AC tros Ganol De Cymru, yn ymgyrchu ers blynyddoedd yn y maes.

Mewn erthygl y llynedd, fe gyhuddodd Lywodraeth Cymru o fynd yn erbyn hawliau plant trwy lusgo’u traed tros y newid.

“Yn ddigon priodol, fe fyddwn i’n cael fy nghymryd i’r llys petawn i’n taro oedolyn, er enghraifft, are i wyneb,” meddai ar wefan yr Huffington Post.

“Fodd bynnag, dyw hi ddim yn erbyn y gyfraith i fi fynd adre’ a tharo fy mhlentyn yn galed. Dyw hynny ddim yn iawn.

“Yn fy marn i dyma’r unig ffordd i rwystro’r penawdau dychrynllyd hynny y byddwn ni’n eu darllen am blant a babis bach yn marw yn nwylo oedolion.”

Y cefndir

Mae hi’n ddeng mlynedd ers i ACau bleidleisio o blaid gwneud taro’n anghyfreithlon, ond ar ddiwedd trafodaeth yr oedd hynny, yn hytrach nag ynglŷn â deddfwriaeth.

Fe fu pleidlais debyg wedyn yn 2011 ac mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi dweud nad oes yna’r fath beth â ‘tharo diogel’.