Terwyn Davies
Bydd mab fferm o Geredigion yn un o wynebau newydd tîm cyflwyno rhaglen Ffermio ar S4C o nos Lun ymlaen.

Mae Terwyn Davies, sydd eisioes yn gyfarwydd i nifer yn gyflwynydd ar Radio Cymru, wedi bod yn rhan o dîm cynhyrchu Ffermio ers rhai blynyddoedd bellach, ac roedd yn cyflwyno Bwletinau Ffermio ar S4C am gyfnod.

Wedi ei fagu ar dyddyn yn Nyffryn Aeron, mae’r cyflwynydd 31 oed yn edrych ymlaen am yr her o fod yn un o ohebwyr newydd y gyfres, sy’n trafod materion yn ymwneud â chefn gwlad ac amaethyddiaeth.

“Dwi wrth fy modd yn cwrdd â phob math o gymeriadau ledled Cymru wrth i mi chwilio am eitemau ar gyfer Ffermio,” meddai Terwyn Davies, sydd hefyd yn cynhyrchu’r gyfres Bro ar gyfer S4C gyda’r cwmni cynhyrchu Telesgop o Abertawe.

“Dwi wrth fy modd yn clywed eu straeon difyr a chael tipyn bach o hwyl yn eu cwmni!”

Bydd Terwyn Davies yn ymuno â’r tîm tra bod un arall o’r criw cyflwyno, Daloni Metcalfe, i ffwrdd ar gyfnod mamolaeth, ar ôl genedigaeth ei phumed plentyn.