Y Fenai
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn dweud eu bod nhw bellach yn gwybod pryd y cafodd Ynys Môn ei gwneud yn ynys.

Gwaith Mike Roberts, myfyriwr hŷn o Amlwch yw’r astudiaeth PhD a wnaed yn Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor.

Dangosodd yn ei waith ymchwil fod y Fenai wedi ffurfio rhwng 5,800 a 4,600 o flynyddoedd yn ôl.

Roedd hynny tua’r un adeg ag oedd y ffermwyr cyntaf yn dechrau disodli’r helwyr yng ngogledd Cymru.

“Tua 14,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd y Fenai yn dir sych a gallai pobl ac anifeiliaid groesi o’r naill ochr i’r llall yn rhwydd,” meddai Mike Roberts.

“Dros yr ychydig filoedd o flynyddoedd nesaf, cynhesodd yr hinsawdd ac weth i’r iâ doddi cododd lefelau’r môr.

“Yna, un diwrnod, rhwng 8,800 a 8,400 o flynyddoedd yn ôl, fe wnaeth llanw uchel y gwanwyn wahanu Ynys Môn oddi wrth y tir mawr am y tro cyntaf.”

Parhaodd lefelau’r môr i godi am tua 4,000 o flynyddoedd ar ôl hynny ac o hynny ymlaen mae Ynys Môn wedi bod ar wahân i dir mawr Cymru, meddai.

“Rhywbryd rhwng 5,800 a 4,600 o flynyddoedd yn ôl doedd dim tir sych rhwng Ynys Môn ac Arfon hyd yn oed pan oedd y llanw ar ei isaf,” meddai Mike Roberts.