Gweithgareddau plant (o wefan y Fenter)
Mae Menter Iaith Abertawe yn dweud eu bod mewn sefyllfa “argyfyngus” oherwydd bwriad Cyngor Sir a Dinas Abertawe i dorri £23,000 oddi ar eu cyllid erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Er mwyn ceisio arbed £45 miliwn dros y tair blynedd nesaf, mae cabinet y cyngor wedi argymell torri grant y fenter – sy’n cael ei roi i ddarparu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal. Mae’r cabinet ynghanol cyfnod ymgynghori a fydd yn dod i ben ar Chwefror 18.

Ond mae rheolwr y Fente ryn dweud y byddai’r ddarpariaeth gofal plant yn diflannu os bydd yr arian yn cael ei stopio, gan ddweud fod y sefyllfa yn un “argyfyngus”.

Ergyd sylweddol

“Mae £23,000 yn swm pitw i’r Cyngor ond yn ergyd sylweddol i Fenter Iaith Abertawe sy’n hollol ddibynnol ar grantiau,” meddai Elgan Davis-Jones, Rheolwr Menter Iaith Abertawe.

O’r hyn rydw i’n wybod, does gan y Cyngor ddim cynllun i barhau gyda’r gwaith os yw’r toriad yn cael ei wneud gan nad yw’n flaenoriaeth.

“Fe ddaeth aelod o’r cyngor i’n gweld ym mis Rhagfyr, sy’n awgrym cryf fod yr arian am ddod i ben – dros nos, mae ein sefyllfa wedi troi yn fregus iawn” meddai.

Mae’r Fenter wedi cyflwyno cynnig swyddogol i’r cyngor i barhau gyda’r ddarpariaeth gan dderbyn llai o gyllid i wneud hynny, ond dyw’r cyngor ddim wedi ymateb hyd yma, yn ôl Elgan Davis-Jones.

“Rydym ni wedi gofyn am £10,000 yn hytrach na £23,000 am ein bod ni wedi dechrau gwaith o gynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.”

Ymateb y cyngor

Mae Cyngor Dinas Abertawe wedi cadarnhau eu bod yn y broses o drafod y bwriad o dorri grant Menter Iaith Abertawe.

“Ar hyn o bryd, mae cronfa Plant a Phobol Ifanc yn trafod lleihau’r grant sy’n cael ei ddarparu i Menter Iaith Abertawe o £23,000.

“Ond mae’r cyngor yn cefnogi’r fenter ac mae yn gobeithio gallu rhoi grant i’w helpu nhw barhau gyda’u gwaith, beth bynnag yw penderfyniad y cabinet.”

Cefndir

Cafodd Menter Iaith Abertawe ei ffurfio yn 2001 ac mae chwech o bobol yn gweithio yno. Mae’r fenter ddielw yn derbyn 60% o’u cyllid gan grant Plant a Phobol Ifanc y Llywodraeth.