Mae dynes wedi cael ei chludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe gydag anafiadau difrifol ar ôl damwain ger Llambed y bore yma.

Cafodd yr heddlu eu galw am 9.57yb yn dilyn adroddiad o ddamwain car ar ffordd yr A482 rhwng Llanbed ac Aberaeron.

Roed un car wedi gadael y ffordd ac yn gorwedd mewn afon tua 400 llath oddi wrth y ffordd.

Cafodd y ddynes ei chludo mewn ambiwlans awyr i’r ysbyty’n dilyn y ddamwain, ac fe gafodd y ffordd ei chau gyda heddlu y tu allan i Lambed yn dargyfeirio traffig.

Mae’r ffordd yn dal i fod ynghau.