Mae Carwyn Jones wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi £90,000 yn ychwanegol i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae’r arian newydd yn cael ei roi er mwyn galluogi’r Eisteddfod i roi nifer o argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Eisteddfod ar waith.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol eisoes yn derbyn grant o £543,000 bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru.

Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Eisteddfod o dan gadeiryddiaeth Roy Noble yn dilyn Eisteddfod 2012.

Ymhlith yr argymhellion sydd yn yr adroddiad, mae’r argymhelliad y dylai’r ŵyl barhau i deithio i wahanol ardaloedd yng Nghymru bob blwyddyn, y dylai’r Eisteddfod greu cynllun i ddenu mwy o wirfoddolwyr ifanc a hefyd yr argymhelliad ei bod yn sefydlu grŵp o arbenigwyr i greu Strategaeth Ddigidol uchelgeisiol.

‘Ehangu apêl yr ŵyl’

Mae’r cyhoeddiad yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y grŵp sy’n sôn am ffyrdd y gall yr ŵyl genedlaethol foderneiddio a chreu mwy o effaith.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn falch o gael derbyn pob un o’r argymhellion mewn egwyddor ac y byddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw gamau gweithredu y gellid eu cymryd.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn un o gonglfeini’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.

“Aethon ni ati i sefydlu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen er mwyn cael gwybod beth oedd barn y bobl, clywed am yr opsiynau gorau i ehangu apêl yr ŵyl a chynyddu nifer yr ymwelwyr. Mae’r argymhellion sydd yn yr adroddiad yn rhai rhesymol ac yn cynnig gweledigaeth glir ar sut y gall yr Eisteddfod ddatblygu a moderneiddio.

“Byddwn ni nawr yn gweithio’n agos gyda’r Eisteddfod wrth iddyn nhw ystyried sut i ymateb i’r argymhellion.”

‘Trafod’

Meddai’r prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, “Rydym yn ddiolchgar i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, a’r Llywodraeth am eu hystyriaeth o’r adroddiad a’i argymhellion, ac yn croesawu’r cyhoeddiad ein bod am dderbyn £90,000 yn ychwanegol eleni er mwyn gwireddu rhai o’r argymhellion.

“Byddwn yn mynd ati i drafod yr adroddiad, ei gynnwys, a’i argymhellion yn fewnol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ac rydym hefyd yn edrych ymlaen at barhau’r drafodaeth gyda’r Llywodraeth.”

Dywedodd yr Eisteddfod y bydd Bwrdd Rheoli a Chyngor yr Eisteddfod yn cael cyfle i drafod yr adroddiad a’i argymhellion cyn iddyn nhw  wneud unrhyw sylwadau na chyhoeddi unrhyw gynlluniau pellach sy’n deillio o waith y grŵp.