Dyma ganlyniadau terfynnol y Refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011

Ardal Bleidleisio Ydw Nac Ydw Canran Pleidleiswyr
Abertawe 38,496 22,409 32.90%
Blaenau Gwent 11,896 5,366 32.44%
Bro Morgannwg 19,430 17,551 40.10%
Caerdydd 53,427 33,606 35.16%
Caerffili 28,431 15,751 34.55%
Casnewydd 15,983 13,204 27.90%
Castell-nedd Port Talbot 29,957 11,079 38.00%
Ceredigion 16,505 8,412 44.07%
Conwy 18,368 12,390 33.79%
Gwynedd 28,200 8,891 43.39%
Merthyr-Tudful 9,136 4,132 30.12%
Pen-y-bont ar Ogwr 25,063 11,736 35.64%
Powys 21,072 19,730 39.68%
Rhondda Cynon Taf 43,051 17,834 34.62%
Sir Benfro 19,600 16,050 38.73%
Sir Ddinbych 15,793 9,742 34.47%
Sir Fynwy 12,381 12,701 35.83%
Sir Gaerfyrddin 42,979 17,712 44.36%
Sir y Fflint 21,119 12,913 29.45%
Torfaen 14,655 8,688 33.82%
Wrecsam 17,606 9,863 27.04%
Ynys Môn 14,011 7,620 43.83%
Cyfanswm: 517,132 63.49% 297,380 36.51% 815,597
35.2%

3.44pm: Cyfanswm terfynnol y pleidleisiau: 815,597. Y nifer wedi pleidleisio ‘Ie’ – 517,132 (63.5%), a’r nifer wedi pleidleisio ‘Na’ – 297,380 (36.5%). Mwyafrif o 220,392 (27.1%) i’r bleidlais Ie.

3.40pm: Rachel Banner o Ymgyrch Na Gwir Gymru yn cwestiynnu “dilysrwydd” y refferendwm ar sail nifer y pleidleiswyr. Rhai o’r gynulleidfa yn mynegi gwrthwynebiad i hyn. Dweud bod miloedd yng Nghymru sy’n dal i wrthwynebu’r symud “cam wrth gam hyn at ymrannu.” Ond yn diolch “i’r bobol, nid y gwleidyddion, wnaeth drio gwneud eu gorau dros Gymru.”

3.30pm: Y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones yn dweud “bod calon y genedl hon yn dal i guro’n gadarn,” a’i bod hi’n bryd i Gymru nawr “gymryd rheolaeth.”

3.27pm: Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn annerch y Senedd: “Gallwn nawr wneud, yn hytrach na siarad… Heddiw cafodd hen wlad ei pharch. Heddiw mae Cymru yn gyfartal yn y Deyrnas Unedig.” Rachel Banner o, ymgyrch Na Gwir Gymru, yn gwylio’r araith o’r cefn.

3.22pm: Cadeirydd yr Ymgyrch Ie, Roger Lewis, yn siarad o’r Senedd: “Mae Cymru wedi siarad. Mae Cymru wedi dweud ‘Ie’.”

3.19pm: Caerdydd yn pleidleisio Ie – 53,427, Na – 33,606. Y sir olaf o’r 22.

3.13pm: Y cyn brif-weinidog Rhodri Morgan yn dweud fod y Cynulliad wedi “ennill ei phrentisiaeth” ac yn barod ar gyfer pwerau deddfu llawn ar ôl heddiw.

3.08pm: Dathlu yn y Senedd erbyn hyn, a Peter Hein yn dweud ei fod “ar ben ei ddigon” gyda’r bleidlais Ie “enfawr”. Dweud bod yn rhaid i’r Cynulliad i weithredu nawr er mwyn gwireddu polisiau dros Gymru.

3.06pm: Adroddiadau bod y Senedd wedi derbyn canlyniadau Caerdydd – y sir olaf i gyhoeddi – ond bod nam technegol yn eu hatal rhag cyhoeddi ar hyn o bryd.

3.01pm: Ieuan Wyn Jones yn cyhoeddi bod y canlyniad yn lwyddiant i Gymru, ac yn falch fod Plaid Cymru wedi mynnu cael refferendwm yn rhan o’u cytundeb i ffurfio clymblaid â Llafur yn 2007.

Rod Richards yn dweud bod y ddadl o blaid cael grymoedd cydradd â’r Alban a Gogledd Iwerddon i Gymru wedi bod yn fwy dylanwadol wrth ddenu pleidlais Ie, na llwyddiant y Cynulliad ei hun dros y ddegawd ddiwethaf.

2.47pm: Gohebydd y Cynulliad Golwg 360 yn dweud bod y bleidlais Ie yn y siroedd ar y ffîn wedi bod yn syndod i nifer fawr o ymgyrchwyr heddiw. Disgwyl am gyhoeddiad gan Gaerdydd nawr – yr olaf o’r 22 sir i gyhoeddi eu canlyniad. Cyfanswm y pleidleisiau ar hyn o bryd: Ie – 463,705, Na – 263,774.

2.38pm: Gwynedd yn dweud ‘Ie’ gyda’r canran mwyaf ar draws Cymru gyfan, ar 76% (28,200) gyda’r bleidlais ‘Na’ ar 24% (8,891).

2.31pm: Sir Fynwy, sir enedigol Rachel Banner, yw’r gyntaf yng Nghymru i bleidleisio Na, a hynny o fwyafrif o 320 pleidlais, yn dilyn ail-gyfri pleidleisiau yn gynharach: Ie – 49% (12,381), Na – 51% (12,701), newid o 17% o blaid pleidlais ‘Ie’ ers 1997.

2.23pm: Cyhoeddiad Rhondda Cynon Taf yn codi nifer y bleidlais uwchben y lefel angenrheidiol i ennill y refferendwm dros bwerau deddfu cynradd i Gynulliad Cymru (sef 402,594). Mwyafrif i’r bledilais Ie o 25,217 yn Rhondda Cynon Taf: Ie – 71% (43,051), Na – 29% (17,834).

Cyfanswm y pleidleisiau ar draws Cymru ar ôl i 19 canlyniad sirol gael ei gyhoeddi cyhoeddiad: Ie – 423,124 (63.6%), Na – 242,182 (36.4%).

2.16pm: Mwyafrif o 25,267 i’r bledlais Ie yng Nghaerfyrddin: Ie – 71% (42,979), Na – 29% (17,712).

2.08pm: Syr Eric Howells yn wfftio sylwadau fod nifer y pleidleiswyr ar draws Cymru yn gymharol

2.06pm: Ceredigion yn pleidleisio Ie – 66% (16,505), Na – 34% (8,412). Pen-y-bont ar Ogwr yn pleidleisio Ie – 68% (25,063), Na 32% (11,736), mwyafrif o 13,327 yn etholaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Torfaen yn pleidleisio Ie – 63% (14,655), Na – 37% (8,688).

1.53pm: Sir y Fflint yn pleidleisio Ie – 62.1% (21,119), Na – 37.9% (12,913). Vaughan Roderick yn dweud bod ymgyrchwyr yno wedi fframio’r ymgyrch fel un “Llafur yn erbyn y Toriaid”. Caerffili yn pleideisio Ie – 64.3% (28,431), Na – 35.6% (15,751). Bro Morgannwg yn pleidleisio Ie – 52.5% (19,430), Na – 47.5% (17,551) – mwyafrif o 1,879 ar ôl brwydr agos iawn yn y Sir.

1.43pm Canran y pleidleiswyr ar draws Cymru wedi ei chadarnhau ar 35.2%.

Abertawe 32.9%, Bro Morgannwg 40.10%, Caerdydd 31.3%, Caerffili 34.5%, Castell-nedd Port Talbot 38%, Ceredigion 44.07%, Conwy 33.79%, Gwynedd 43.4%, Merthyr 29%, Pen y Bont ar Ogwr 35.64%, Rhondda Cynon Taf 34.6%, Sir Benfro 38.7%, Sir Gaerfyrddin 44.36%, Sir Fynwy 35.83%, Sir y Fflint 29.4%, Torfaen 33.8%.

1.37pm: Dros gan mil o bleidleisiau o fwlch rhwng ‘Ie’ a ‘Na’ ar hyn o bryd, Ie – 211,891, Na – 131,585, a disgwyl y gallai’r bwlch hwnnw ledu yn ystod y prynhawn.

1.36pm: Ar ol ail-gyfri yn gynharach, Merthyr Tudful yn datgan: Ie – 68.9% (9,136), Na – 31.1% (4,132). Castell-nedd Port Talbot yn datgan: Ie – 73% (29,957), Na – 27% (11,079), mwyafrif o 18,878 i’r bleidlais ‘Ie’ yno.

1.29pm: Powys yn cyhoeddi mwyafrif agos iawn i’r bleidlais Ie – 52% (21,072), Na – 48% (19,730). Mwyafrif, felly, o 1,342 pleidlais. Nifer y pleidleisywr ym Mhowys yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, ar 40%.

1.24pm: Abertawe yn pleidleisio: Ie – 63.2% (38,496). Na – 36.8% (22,409).

1.21pm: Cyfanswm y pleidleisiau wedi eu cyhoeddi ar ol saith canlyniad: Ie – 113,230. Na – 74235.

1.20pm: Casnewydd yn pleidleisio Ie – 55% (15,983), Na – 45% (13,204). Conwy yn pleidleisio Ie – 60% (18,368), Na – 40% (12,390). Sir Benfro yn pleidleisio Ie – 55% (19,600) Na – 45% (16,050).

1.12pm: Ynys Mon yn cyhoeddi: Ie – 14,011, 65%, Na – 7,620, 35%. Cynydd o 14% i’r bleidlais o blaid y Cynulliad ers 1997.

1.07pm: Dafydd Elis-Thomas wedi “rhyfeddu” at nifer y pleidleiswyr o ystyried cymhlethdod y cwestiwn a lefel y drafodaeth cyn y refferendwm.

1.03pm: Adroddiadau answyddogol bod y bleidlais ‘Na’ ar y blaen o 500 yn Sir Fynwy.

1.00pm: Disgwyl canlyniad yng Nghastell-nedd Port Talbot cyn hir. Dinbych, Wrecsam a Blaenau Gwent eisioes wedi cyhoeddi mwyafrif dros y bleidlais ‘Ie’, 19 sir arall i gyhoeddi yn ystod y prynhawn.

12.52pm: Bill Hughes yn dal i ddisgwyl gweld pleidlais Na yn siroedd deheuol llai Cymreig de Cymru.

12.49pm: Rachel Banner yn rhybuddio’r Cynulliad rhag gweld y bleidlais fel “cymeradwyaeth llwyr” o’u gwaith.

12.42pm: Helen Mary Jones AC yn dweud wrth gohebydd Golwg 360 yn y Cynulliad ei bod wedi ei “syfrdanu’n llwyr” gan ganlyniad Sir Ddinbych.

12.40pm: Canlyniadau Wrecsam: Ie – 64%, Na – 36%. Dim ond 27% o bobol wedi bwrw pleidlais, ond yr ymgyrch Ie yn falch iawn o weld newid o 19% o blaid ers 1997. Richard Wyn Jones yn dweud bod pryder mawr wedi bod ynglyn â llwyddiant yr ymgyrch ‘Ie’ yn Wrecsam yn yr wythnosau diwethaf.

12.35pm: Ail-gyfri ym Merthyr Tudful yn rhoi nifer y pleidleiswyr yno ar 30% (49.5% yn 1997).

12.29pm: Amcangyfrif o nifer y pleidleiswyr ar draws Cymru – 35%.

12.25pm: Ieuan Wyn Jones yn dweud bod hi’n ddiogel i ddweud bod pleidlais Ie sylweddol ar draws Cymru, a bod hynny’n dweud llawer mwy am deimladau pobol Cymru na’r nifer gweddol isel o bleidleiswyr.

12.15pm: Pleidlais ‘Ie’ yn ymddangos yn debygol yn Sir Benfro. Os felly, newid o 1997 pan bleidleisiodd 57% yn erbyn.

12.10pm: Niferoedd y pleidleiswyr 2011 (1997):  Morgannwg Gwent 39.7% (54.3%), Ceredigion 43.8% (56.8%), Sir Fynwy 35.5% (50.5%), Pen-y-bont ar Ogwr 35.4% (50.6%), Abertawe 32.9% (47.1%), Gwynedd 43.4% (59.8%)

12.01pm: Awgrym eu bod nhw’n ail-gyfri yn Merthyr Tudful. Rhyfedd…

11.58am: Canlyniad Sir Ddinbych – 15,792 Ie – 9,742 Na. 62% wedi pleidleisio

11.53am: Canlyniad Blaenau Gwent – nifer pleidleiswyr 17,257 sef 32% (49.3%) Ie 11,869 (69%) Na 5,366 (31%)

11.50am: Nifer y pleidleiswyr 2011 (1997): Fflint – 29.4% (41%), Merthyr Tudful – 29% (49.5%), Ynys Mon – 44% (56.9%), Casnewydd – 29.7% (45.9%), Castell Nedd Port Talbot – 38% (51.9%), Torfaen 33.8% (45.5%), Caerffili 34.5% (49.3%), Caerfyrddin 44.36% (56.4%), Sir Benfro 38.7% (52.6%), Conwy 33.79% (51.5%), Rhondda Cynon Taf 34.6% (49.9%), Ceredigion 43.8% (56.8%).

11.47am: Elanor Burnham AC yn dweud wrth ein gohebydd yn y Cynulliad fod Cymru “ar siwrnai” tuag at bwerau amrywio trethu.

Adroddiadau – Gwynedd: 70% ie, Ynys Môn: 60% ie.

11.46am: Adroddiadau o Geredigion – 44% wedi pleidleisio a tua 78% o’r rheini yn pleidleisio ‘Ie’

11.45am: Ie ar y blaen mewn 20 allan o 22 cyngor…

11.44am: Mae’n nhw’n profi’r meicroffon ym Mlaenau Gwent… 38% wedi pleidleisio yn Sir Benfro.

11.42am: Nifer y pleidleiswyr hyd yn hyn: Fflint 32% (41%), Merthyr Tudfyl 29% (49.5%), Ynys Mon 44% (56.9%), Casnewydd 29.7% (45.9%), Castell Nedd Port Talbot 38% (51.9%), Torfaen 33.8% (45.5%).

11.40am: Ron yn gwadu adroddiadau ym mhapur newydd y Cymro ei fod yn galw am bwerau i amrywio treth yn barod.

11.38am: Eleanor Burnham yn dweud wrth S4C ei bod hi wedi disgwyl turnout o 20%.

11.37am: Ffynonellau Plaid Cymru: Y Blaid sydd yn gyfrifol am y bleidlais ‘Ie’ yng Nghaerfyrddin a Chaerffili. Llafur wedi cyfrannu “braidd dim”.

11.35am: Ron Davies yn dweud wrth ein gohebydd yn Golwg bod ymgyrch Gwir Gymru wedi “ymylu ar fod yn gelwyddog”.

Ychwanegu fod “pwerau i amrywio trethu” ar yr agenda.

11.34am: Rachel Banner, llefarydd Gwir Gymru, yn dweud nad ydyn nhw wedi llwyddo i argyhoeddi pobol Cymru i bleidleisio ‘Na’.

11.30am: Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn ymosod ar y cyfryngau: “Bron dim sylw i’r Refferendwm yn y BBC, dim o gwbwl ym mhapurau Llundain.”

“Dim esguson yn y dyfodol,” meddai CJ hefyd.

11.28am: Bydd y swyddog adroddol yn camu i’r llwyfan yn y Senedd yn fuan er mwyn cyhoeddi faint sydd wedi pleidleisio ymhob cwr o Gymru. Tua 30% ar yr olwg gynta’.

11.24am: Nifer y pleidleiswyr o’i gymharu â 1997. Sir y Fflint – 32% (41%). Merthyr Tudful – 29% (49.5%). Ynys Môn – 44% (56.9%). Casnewydd – 29.7% (45.9%). Castell-Nedd Port Talbot – 38% (51.9%).

11.21am: Yr awdur Catrin Dafydd yn camu’n bwrpasol i’r Senedd i wneud darn radio. Dagrau yn ei llygaid “oherwydd y gwynt, nid y canlyniadau” meddai hi.

11.20am: Blaenau Gwent fydd y cyntaf i gyhoeddi, am 11.45am…

11.19am: Yn ôl ein gohebydd yn y Cynulliad mae disgwyl canlyniadau rhai o’r awdurdodau llai “o fewn yr awr”…

11.18am: Adroddiadau bod 35% wedi pleidleisio yng Ngheredigion a 68% wedi pleidleisio ‘Ie’

11.16am: Syr Eric Howells wedi cyfaddef eu bod nhw’n wedi colli’r dydd ar S4C

11.09am: Amcangyfrif fod Gwynedd yn 70% ‘Ie’…

Bydd y llifdorau’n agor a’r canlyniadau yn cael eu datgelu cyn bo hir.

11.07am: 28% wedi pleidleisio yng Nghasnewydd, fydd ymysg yr isaf fyddwn i’n ei ddychmygu…

11.06am: Newyddiadurwyr y BBC ‘mewn pebyll ych-a-fi sy’n ogleuo o fwd’ yn ôl eu gohebydd ar y teledu Saesneg. Maen nhw wedi eu benthyg o Wŷl Glastonbury mae’n debyg…

11.04am: Mae un o’n gohebwyr newydd gael clonc gydag un o brif ymgyrchwyr ‘Na’, Nigel Bull. Mae o’n dweud eu bod nhw wedi gwario llai nag £5,000 ar eu hymgyrch yn ei gyfanrwydd.

Mae’n debyg fod Sir Fynwy yn mynd i bleidleisio ‘Na’. Tua 37% wedi pleidleisio…

10.54am: Yn ôl Matt Withers o’r Western Mail mae “hyd yn oed Bae Colwyn” wedi pleidleisio ‘Ie’. Mae’r ymgyrch ‘Ie’ yn dweud bod hynny’n brawf eu bod nhw wedi sicrhau buddugoliaeth.

10.50am: Y newyddiadurwr Gareth Hughes yn dweud ar Twitter bod Caerffili 2:1 o blaid ‘Ie’.

10.48am: Martin Eaglestone o’r Blaid Lafur yn awgrymu y dylai’r arian sydd wedi ei wario ar y stondin ffansi yn y Senedd a phebyll eisteddfodaidd y BBC y tu allan fod wedi ei wario ar yr ymgyrchoedd.

10.46am: Ein gohebydd yn y Cynulliad yn dweud bod adroddiadau yn awgrymu fod 75% ‘Ie’ yn y Rhondda, a 65% yn dweud ‘Ie’ yn Sir Gaerfyrddin.

Cyn-brif weithredwr Plaid Cymru, Dafydd Trystan, hefyd yn “hapus iawn”.

10.43am: Ffigwr swyddogol pleidleiswyr Merthyr Tuful, 12,760 sef 29%.

10.42am: 31.8% wedi pleidleisio yn Sir y Fflint, sy’n awgrymu y bydd nifer y pleidleiswyr yn uwch na’r disgwyl.

Blaenau Gwent yn barod i gyhoeddi gyntaf, a dweud ‘Ie’. Rhondda wedi dweud Ie ‘hiwj’ yn ôl Betsan Powys ar y BBC.

10.37am: Richard Wyn Jones ar S4C yn credu y gallai pob awdurdod yng Nghymru ddweud ‘Ie’.

10.36am: Ie ymhellach ar y blaen yn y Rhondda, yn ôl adroddiadau.

10.34am: 34.2% wedi pleidleisio yn Sir Ddinbych – yr ystadegyn swyddogol cyntaf.

10.31am: Adroddiad bod 70% wedi pleidleisio ‘Ie’ yn Aberystwyth. Lee Waters, Cadeirydd ‘Ie’, yn dweud wrth Golwg ei fod yn “hapus iawn”.

10.24am: 30-35% wedi pleidleisio yn Sir Ddinbych mae’n debyg.

10.22am: Awgrym o’r cyfri yn Wrecsam fod y sir yn mynd i bleidleisio ‘Ie’, ar ôl i 55.7% bleidleisio ‘Na’ yn 1997.

Fe allai Powys bleidleisio ‘Na’ yn ôl adroddiadau o’r cyfri yno, ond mae pethau’n dynn.

10.19am: Ynys Môn a Chonwy yn ‘Ie’ amlwg yn ôl pobol sydd yn y bleidlais.

Adroddiadau gan y BBC bod tua 44% wedi pleidleisio yn Sir Caerfyrddin, 35% yn Sir Ddinbych, 30% yng Nghasnewydd, a 30% yn Sir y Fflint.

10.12am: Mae yn agos yn Sir y Fflint, mae’n debyg. Roedd 62.8% wedi pleidleisio ‘Na’ yno yn 1997.

10.11am: Sion ar Twitter yn awgrymu bod 44% wedi pleidleisio yng Nghaerfyrddin. Yn y sir ynteu’r dref mae’n anodd gwybod.

10.08am: Roedd 2,289,042 yn gymwys i bleidleisio ddoe ac fe wnaeth 372,586 hynny drwy’r post. Fe fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi gan y prif swyddog cyfri, Jenny Watson.

10.06am: Twitter Ie dros Gymru yn dweud ei fod “yn gynnar ond mae yna lawer iawn o lefydd i weld wedi dweud ‘Ie’.”

Mae’n debyg bod trafodaeth yn y Senedd a fydd unrhyw ardal yn dweud ‘Na’. Sir Fynwy?

10.01am: Abertawe newydd ddechrau cyfri. Mae’n nhw wedi penderfynu dechrau cyfri ar ôl y 21 awdurdod lleol arall am ryw reswm.

10.00am: Rhybudd dim mynediad i’r Senedd ar wefan y Cynulliad: “Bydd y Comisiwn Etholiadol yn cyfrif pleidleisiau’r refferendwm yn y Senedd. O ganlyniad i hyn, bydd y Senedd ar gau i’r cyhoedd drwy’r dydd. Bydd yr adeilad hefyd ar gau i staff Aelodau’r Cynulliad, staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru a staff Llywodraeth Cymru sydd â phasys i’r adeilad.”

9.56am: Ein gohebydd yn y Cynulliad yn dweud fod yr ymgyrch ‘Ie’ yn edrych yn fodlon eu byd.

Mae’r ymgyrch ‘Ie’ yn credu bod Merthyr Tudful wedi pleidleisio 2-1 o blaid, a bod Caerdydd hefyd wedi dweud ‘Ie’.

9.51am: Fe allai Wrecsam a Sir y Fflint gyhoeddi tua 10.30am. Hynny’n awgrymu bod nifer isel iawn wedi pleidleisio.

9.50am: Adam Jones yn y sylwadau yn anhapus â faint o sylw mae’r refferendwm wedi ei gael: “Y BBC prin iawn yw son am y Refferendwm ‘da nhw ond nawr ma da nhw blog fyw hefyd, dau rhaglen un yn Gymraeg a Saesneg, y radio cenedlaethol. Son am ragrith.”

9.45am: Gohebydd y Western Mail o’r Senedd, Ed Walker, yn dweud mai “nifer y pleidleiswyr yw’r cwestiwn mawr heddiw”.

Matt Withers o’r un papur yn dweud bod Aelod Cynulliad Ceidwadwol wedi dweud y bydd yn bwyta ei dei os ydi nifer y pleidleiswyr dros 30%.

9.44am: Trydar gan Cynor Bro Morgannwg yn dweud eu bod nhw wedi agor y bocs cyntaf llawn papurau pleidleisio.

9.43am: Adroddiadau ar Twitter am nifer y pleidleiswyr mewn ardaloedd gwahanol: Monthermer Road, Caerdydd, 11%. Albany Road, Caerdydd, 20%. Merthyr Street, Caerdydd, 17%. Castell Newydd Emlyn, 56%. Llandybie, 50%. Betws, 50%. Brynaman, 50%. Cefnbrynbrain, 50%. Carwe, 45%. Llanfynydd, 50%.

9.35am: Y Comisiwn Etholiadol yn dweud y dylen ni wybod faint sydd wedi pleidleisio tua 11am-12am, ac y bydden ni’n gwybod y canlyniad terfynol tua 3-5pm. Ond mae’n debygol y bydd hi’n amlwg pa ffordd mae’r gwynt yn chwythu yn llawer cynt wrth gwrs…

9.30am: Dywedodd Rachel Banner, llefarydd Gwir Gymru, ddoe eu bod nhw’n bwriadu parhau i ymgyrchu ar ôl y canlyniad heddiw. Dydyn ni heb weld diwedd y mochyn llawn aer, felly…

9.28am: Yn syth ar ôl cyhoeddi’r canlyniad heddiw bydd y pleidiau sydd wedi bod yn cydweithio dros y mis diwethaf yn dechrau ymosod ar ei gilydd drachefn. Yn ôl pôl piniwn ICM heddiw mae 61% eisiau gweld un plaid wrth y llyw ar ôl 5 Mai, tra bod 33% eisiau clymblaid eto.

9.16am: Fe fydd map llachar a defnyddiol o’r holl ganlyniadau i’w weld ar wefan y Comisiwn Etholiadol fan hyn.

Yn ôl llun yn y Western Mail bore ‘ma mae Carwyn Jones bellach â’r gallu i ddal yr haul yn ei law. Dw i’n siŵr nad oedd y grym hwnnw ar y papur pleidleisio…

9.12am: Arolwg gan ICM ar ran y BBC cyn yr etholiad yn awgrymu bod 48% yn credu nad oedden nhw wedi derbyn digon o wybodaeth am y refferendwm.

9.09am: Yn ôl sion ar Twitter mae Rachel Banner, arweinydd yr ymgyrch ‘Na’, yn gwrthod cael ei chyfweld yn dilyn y canlyniad bore ma. Bydd hynny’n newid yn dibynnu ar y canlyniad mae’n siwr…

9.06am: Yn ôl David Thomas yn y sylwadau: “Tua 50% weid pleidleisio yn Llandybie, Rhydaman,Brynaman, Cefnbrynbrain, Betws.Mae’r ffigwr yma yn cynnwys pleidleisiau post.”

Os oes gennych chi sylw gadewch hi isod ac fe wnawn ni gynnwys detholiad fan hyn…

9.04am: Yr awgrym yw fod nifer y pleidleiswyr yn reit isel yn nwyrain Cymru, ond ychydig yn fwy parchus yn y gorllewin. Mae hynny’n debyg o fod yn newyddion da i’r ymgyrch ‘Ie’.

Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi dweud nad ydi o’n disgwyl i nifer y pleidleiswyr fod yn uchel ond na fydd hynny o bwys yn y pen draw…

9.00am: Mae prif ohebydd papur newydd y Western Mail, Martin Shipton, wedi rhoi ei ben ar y bloc a datgan fod pleidlais ‘Ie’ yn sicr.

“Mae’n hollol amlwg y bydd yna bleidlais ‘Ie’, â mwyafrif o tua dau i un,” meddai. Mae adolygiad o lyfr newydd diddorol Martin Shipton fan hyn

8.56am: Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi awgrymu fod nifer y rheini a bleidleisiodd yn uwch na’r disgwyl. Roedd tua 60% wedi pleidleisio drwy’r post, ac roedd hynny’n awgrymu y byddai tua 40% yn pleidleisio ar draws Cymru, meddai. Roedd awgrymiadau cyn y refferendwm mai tua 25%-35% fyddai’n gwneud…

8.53am: Fe fydd y cyfrif yn dechrau am 9am ac mae disgwyl y bydd y canlyniadau cyntaf yn cael eu cyhoeddi tua 10am. Fe fydd y cyfri mawr yn digwydd yn y Senedd, ac mae disgwyl cyhoeddiad am bwy sydd wedi ennill toc cyn hanner dydd. Efallai y bydd yn amlwg cyn hynny wrth gwrs, os oedd y polau piniwn yn gywir. Does neb yn gwybod pa mor dynn fydd pethau…

8.50am: Does dim manylion am nifer y pleidleiswyr eto. Yn ôl y swyddogion yng ngorsaf pleidleisio Penrhiwllan yng Ngheredigion toc cyn 10pm neithiwr roedd 40.5% wedi pleidleisio. Yn ôl un arall o ohebwyr Golwg roedd 62% wedi pleidleisio yn Llanllwchaearn am 8 o’r gloch. Ond mae adroddiadau fod y pleidleisio wedi bod yn llawer is yn rhai o ddinasoedd a threfi’r de.

8.47am: Bore da, ac mae yn fore da i Gynulliad Cymru… wel, dim eto, ond mae llefarydd ar ran yr ymgyrch ‘Na’ eisoes wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n disgwyl ennill.