Dewi Sant, o ffenest yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen (CCA 2.5)
Fe fydd Llywodraeth Prydain yn ymgynghori ynglŷn â throi Dydd Gŵyl Dewi’n Ŵyl Banc.

Ond y dewis arall yw sefydlu ‘Diwrnod Trafalgar’ neu ‘Ddiwrnod y Deyrnas Unedig’ rywdro yn yr hydref.

Mae’r awgrym yn rhan o ddogfen bolisi ar dwristiaeth sydd wedi ei chyhoeddi gan yr Adran Ddiwylliant yn Llundain.

Maen nhw eisiau symud yr Ŵyl Banc draddodiadol sy’n digwydd tua 1 Mai – yr hen Ddiwrnod Llafur – er mwyn ceisio ymestyn y cyfnod twristiaeth.

Fe fyddan nhw’n holi am y posibilrwydd o gael gwyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi yng Nghymru ac yn Lloegr ar Ddydd Sant Siôr, 23 Ebrill.

Dathlu Trafalgar

Ond maen nhw hefyd yn cynnig dewis arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn  – i ddathlu Prydeindod neu i gofio Brwydr Trafalgar, a ddigwyddodd ar 21 Hydref, 1805.

Mae’r syniad o gael gwyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi wedi cael ei groesawu gan Lywodraeth y Cynulliad a gan rai o’r pleidiau sydd wedi bod yn ymgyrchu o blaid hynny.

“Fe fyddai’n gyfle gwych i ddangos ein diwylliant a’n treftadaeth, gan ei throi’n ŵyl fyd-eang i ddathlu popeth Cymreig ac yn ffenest siop o ran buddsoddi a thwristiaeth,” meddai Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.

Mae penaethiaid busnes wedi gwrthwynebu cael Gŵyl Banc ychwanegol ar ddydd y nawddsant.