Llun gan Sian Hedydd Williams
Mae ymgyrchwyr ‘Na’ mewn un tref yng Ngheredigion yn darogan gwae os fydd y bleidlais ‘Ie’ yn llwyddiannus yn y refferendwm heddiw.

“Vote ‘No’ or we will be doomed!” yw’r neges apocolyptaidd ar yr arwydd sy’n croesawu pobol i dref glan môr Aberaeron.

Mae’r rhybudd, sydd ar ben ffordd Rhiw Goch, wedi bod yno ers ddydd Llun o leia’, yn ôl un trigolyn lleol.

Ond roedd y cynghorydd lleol, John Lumley, yn synnu ei fod yno o gwbwl.

“Ymateb cadarnhaol y’n ni wedi ei gael yn lleol bron i gyd,” meddai, gan awgrymu unai fod pobl heb weld yr arwydd, neu nad oedden nhw’n credu’r rhybudd.

“Dim ond un neu ddau sydd wedi bod yn erbyn,” meddai, “ond pleidlais brotest o’dd hynny – dim byd i wneud â’r Cynulliad.”