Emyr Jones yn edrych ar ddifrod llifogydd yn Llanbedr, ger Harlech
Rhaid gwarchod tir amaethyddol rhag llifogydd er mwyn cynnal ein gallu i gynhyrchu bwyd, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru.

Wrth gyflwyno ymateb i bapur ymgynghorol Cyfoeth Naturiol Cymru, ‘Cynllunio Ein Dyfodol’, mae’r undeb yn dadlau bod angen mwy o flaenoriaeth i dir amaethyddol.

“Rydan ni’n croesau ymrwymiad Cyfoeth Naturiol Cymru i adeiladu a chynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd ond rydan ni’n pwysleisio bod angen gwarchod ardaloedd gwledig a thir amaethyddol yn ogystal â’r amgylchedd trefol,” meddai Emyr Jones, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Mae ffermio’n gyfrifol am reoli a gwarchod y tirlun a’r amgylchedd yn ogystal â chynhyrchu bwyd i boblogaeth sy’n cynyddu o hyd – ond does dim cyfeiriad at y cyfraniad yma ym mhapur Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Credwn fod yn rhaid cydnabod rôl amaethyddiaeth wrth reoli dŵr ac oblygiadau llifogydd i gynhyrchu bwyd, yn ogystal ag i eiddo a’r amgylchedd.”

Fe wnaeth Emyr Jones ei sylwadau ar ôl gweld difrod llifogydd yn Llanbedr, ger Harlech, lle’r oedd y môr wedi torri bwlch o 30 metr yn y morglawdd.

“Roedd graddfa’r difrod yn sioc fawr imi,” meddai. “Drwy drugaredd, ni chafodd unrhyw fywydau eu colli, ond gallai hyn yn hawdd fod wedi digwydd.”