Arwel Gruffydd (Llun gan Emyr Young)
Mae arbenigwr ar y Theatr Gymraeg wedi croesawu penodiad Arwel Gruffydd yn gyfarwyddwr artistig newydd y Theatr Genedlaethol.

Yn ôl Hazel Walford Davies, “mi ddihunith y gynulleidfa Gymraeg”.

Ddechrau’r wythnos cyhoeddwyd y bydd Rheolwr Llenyddol Sherman Cymru, Arwel Gruffydd, yn dechrau ar ei waith ar Fai 3. Fe fydd yn olynu Cefin Roberts a rhoddodd y gorau i’r swydd dros flwyddyn yn ôl.

“Dw i mor falch,” meddai Hazel Walford Davies am benodiad Arwel Gruffydd. “Dw i’n credu ei fod e’n berson arbennig iawn achos ei fod e yn deall ei theatr

“Mae e’n gwybod am y theatr o bob ochr. Mae e’n gwybod am actio, yn gwybod am gyfarwyddo, yn gwybod am yr ochr dechnegol, a dw i’n credu bod eisiau sgiliau fel’na arnoch chi os chi’n mynd i lenwi’r swydd yma gydag awdurdod.

“Mae ei swydd yn y Sherman dw i’n siŵr wedi bod o fudd mawr i’r modd y bydd yn dehongli’r swydd newydd. Ac mae e’n ifanc.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 3 Mawrth