Mae Tir Sir Gar gan Theatr Genedlaethol Cymru'n un o'r cynhyrchiadau ar y rhestr fer
Un o chwedlau’r mabinogi, cofio protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith, a sut mae teulu’n gorfod wynebu dyfodol ansicr eu fferm  – dyma themâu tair drama gan Theatr Genedlaethol Cymru sydd wedi cyrraedd rhestr fer Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru 2014 (Theatre Critics of Wales Awards).

Yn ogystal â chynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru – ‘Tir Sir Gar’, ‘Blodeuwedd’ ac ‘Y Bont’ – mae’r dramâu  ‘Cyfaill’ a ‘Llanast!’ gan Theatr Bara Caws hefyd ar y rhestr fer.

Eleni, am y tro cyntaf mae modd i’r cyhoedd bleidleisio dros y Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg, a gwneud hynny ar Golwg360.

Gwobr y cyhoedd

Mae’r gwobrau, sy’n cael eu cynnal am yr ail flwyddyn, yn dod o Gynllun Beirniaid Ifanc (Young Criticts Scheme) sef criw o bobol ifanc rhwng 12 a 25 mlwydd oed sy’n sgwennu adolygiadau o gynyrchiadau llwyfan cyn eu cyhoeddi ar-lein.

Fe wnaeth beirniaid theatr broffesiynol o Gymru gyfarfod gydag aelodau’r Cynllun Beirniaid Ifainc i lunio rhestr fer o gynyrchiadau a welsant gan gwmnïau o Gymru yng Nghymru yn ystod 2013.

Mae aelodau’r panel eisoes wedi pleidleisio dros eu ffefrynnau a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni yn Sherman Cymru yng Nghaerdydd ar Ionawr 25 ond nawr maen nhw eisiau i ddarllenwyr Golwg360 bleidleisio am eu cynhyrchiad Cymraeg gorau nhw dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd y bleidlais gyhoeddus yn cau am 5:00 brynhawn Gwener 17 Ionawr.

Pleidleisiwch am eich ffefryn chi isod ac am ragor o wybodaeth am Gynllun Beirniaid ifanc a’r gwobrau cliciwch yma.