Pencadlys Nationwide (Brian Robert Marshall CCA 2.0)
Mae prisiau tai yng Nghymru wedi codi o fwy na 6% yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ – ond mae hynny’n llai na’r cyfartaledd ar draws gwledydd Prydain.

Yn ôl Cymdeithas Adeiladu’r Nationwide, roedd prisau trwy’r Deyrnas Unedig wedi codi o 8.4% – y cynnydd blynyddol mwya’ ers 2010.

Er bod prisiau’n parhau’n is nag yr oedden nhw yn 2007, cyn y chwalfa ariannol, mae’r cynnydd yng Nghymru’n uwch nag mewn sawl rhanbarth economaidd arall.

O le i le

Ffigurau Llundain – cynnydd o 14.9% – sy’n rhannol gyfrifol am ystumio’r ffigurau gyda’r cynnydd yn ddim ond 1.9% yng ngogledd Lloegr.

Mae’r cynnydd yn golygu bod pris tai ar gyfartaledd yng Nghymru bellach bron â chroesi £140,000.

Yn Yr Alban, roedd y cynnydd blynyddol yn 3.7% tra bod prisiau tai Gogledd Iwerddon wedi codi 7%.

‘Dim swigen’ meddai Cameron

Ddoe, mynnodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, nad oedd cynllun y Llywodraeth i helpu pobol i brynu eu tai ei hunain yn creu swigen dai arall.

Cynnydd eithriadol ym mhris eiddo oedd yn rhannol gyfrifol am y chwalfa ariannol a’r cwymp ym mhrisiau tai yn 2008.