Taflenni ymgyrch Ie Dros Gymru (Llun Plaid Cymru)
Mae pôl piniwn newydd wedi cadarnhau fod yr ymgyrch o blaid pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm yfory yn parhau ymhell ar y blaen.

Yn ôl y pôl piniwn gan asiantaeth ymchwil Clarity mae 49% o blaid pleidlais ‘Ie’, 22% yn cefnogi pleidlais ‘Na’ a 28% heb benderfynu’r naill ffordd neu’r llall.

Fe fydd y gorsafoedd pleidleisio yn agor eu drysau am 7am bore fory ac yn cau am 10pm. Ni fydd y cyfri’n dechrau nes 9am ddydd Gwener.

Dywedodd Gwir Gymru wrth bapur newydd y Western Mail, gomisiynodd yr arolwg, bod yr 28% sydd heb benderfynu yn fwy tebygol o bleidleisio ‘Na’ ar y diwrnod.

“Dw i’n teimlo nad ydi’r ymgyrch ‘Ie’ wedi llwyddo i argyhoeddi’r rheini sydd heb benderfynu, a’u bod nhw’n fwy tebygol o bleidleisio ‘Na’,” meddai Nigel Dix o Gwir Gymru.

“Fe fydd y cwbl yn dibynnu ar faint sy’n pleidleisio ar y diwrnod a faint o’r rheini sydd heb benderfynu bydd yn mynd i bleidleisio.

“Nhw fydd yn penderfynu beth yw canlyniad y refferendwm.”

Cyfraith a threth

Roedd cwestiynau eraill yn rhan o’r arolwg nad oedd yn ymwneud â’r refferendwm yfory.

Dywedodd 57% eu bod nhw o blaid rhoi pŵer dros yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol i’r Cynulliad. Roedd 26% yn anghytuno.

Roedd 54% o blaid datganoli’r pŵer dros godi a gostwng trethi, tra bod 34% yn anghytuno.

Roedd 41% o blaid torri nifer yr Aelodau Seneddol yng Nghymru, a 43% yn erbyn.