Roger Lewis, cadeirydd yr ymgyrch 'Ie'
Mae cadeirydd yr Ymgyrch Ie, Roger Lewis, wedi galw am y tro olaf i bobol bleidleisio, diwrnod cyn y refferendwm ar ragor o ddatganoli.

Yfory fe fydd y blychau pleidleisio yn agor, ond er bod disgwyl y bydd buddugoliaeth i’r ymgyrch ‘Ie’ mae yna bryderon na fydd nifer yn pleidleisio.

Wrth annerch etholwyr mewn digwyddiad ar drothwy diwrnod y bleidlais yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, dywedodd Roger Lewis y bydd rhaid i gefnogwyr yr ymgyrch ‘Ie’ bleidleisio os ydyn nhw am ennill y dydd.

“Dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol. Mae hi’n hollbwysig bod pobl yn gwneud yr ymdrech yfory i fynd allan a phleidleisio Ie dros lais cryfach i Gymru,” meddai Roger Lewis.

“Dyma’r unfed awr ar ddeg. Rydyn ni wedi mynd a’n neges i filoedd o bobl ar hyd a lled y wlad ac mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn.

“Mae pobl yn sylweddoli ei bod yn gwneud synnwyr bod deddfau sydd ddim ond yn effeithio ar bobl Cymru yn cael eu gwneud yng Nghymru.”

Heddiw fe fydd y cyn Brif Weinidog a’r aelod Cynulliad lleol, Rhodri Morgan, yn troedio strydoedd Caerdydd am ddiwrnod olaf o ymgyrchu.

Fe fydd Katie Dalton, Llywydd, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru,  Caroline Oag, Cymru Yfory ac  Ali Yassine, is-gadeirydd Ie dros Gymru hefyd allan ar y strydoedd.