Mae’r heddlu wedi rhybuddio siaradwyr Cymraeg am e-byst yn yr heniaith sy’n eu hannog i roi arian i dwyllwyr dramor.
Mae ‘twyll ebost 419’ yn addo llawer iawn o arian ond yn mynnu ffioedd ymlaen llaw neu daliadau’n gyntaf.
Yr wythnos diwethaf datgelodd Golwg 360 bod cwmni diogelwch cyfrifiaduron Symantec wedi dod ar draws e-byst o’r fath yn Gymraeg.
Mae wedi’i weld mewn ieithoedd eraill megis Ffrangeg ac Almaeneg ond dyma’r tro cyntaf i e-Drosedd Cymru ei weld yn yr heniaith.
“Dyw’r twyll ebost yma’n ddim byd newydd – yn wir, ym myd cyflym e-drosedd, mae’n cael ei ystyried yn hen ffasiwn.,” meddai John Cherry, swyddog cyswllt busnes e-Drosedd Heddlu De Cymru.
“Fel arfer, mae’r ebyst yn gofyn i rywun anfon llawer iawn o wybodaeth bersonol ar ffurflen gais.
“Mae’r neges yn syml: ddylech chi byth anfon manylion personol, yn enwedig manylion banc, a ddylech chi byth chwaith anfon arian i’r rhai sy’n anfon y negeseuon hyn.
“Mae’n werth cofio – os yw’n anodd credu fod rhywbeth yn wir, yna mae’n debyg nad yw e’n wir, waeth ym mha iaith y mae’r ebost.”
Twyll ‘effeithiol’
Er na fyddai’r gynulleidfa mor eang â’r un ar gyfer negeseuon Saesneg, mae defnyddio’r Gymraeg yn gwneud y twyll yn un hynod effeithiol, meddai’r heddlu.
Er bod y Gymraeg yn dod yn gynyddol gyffredin mewn busnes ac yn academia, i lawer iaith y teulu a ffrindiau yw hi. Mae’r agosatrwydd yn tawelu ac yn gallu arwain rhai i gredu eu bod yn gwybod pwy sydd wedi gyrru’r neges ac yn barotach i anfon arian ato, medden nhw.
Gall unrhyw un sy’n bryderus am e-Drosedd neu ddiogelwch y rhyngrwyd ymweld â ecrimewales.com i gael cyngor, arweiniad a llenyddiaeth y gellir ei lawr lwytho ar rwystro e-Drosedd.