Y Pafiliwn Pinc
Cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw y bydd y prifwyl yn 2013 yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych.

Fe fydd yn cael ei chynnal o 3 – 10 Awst ar dir Fferm Kilford ger Dinbych.

Roedd yr eisteddfod wedi ei chynnal yn yr un safle ddegawd yn ôl, yn 2001.

“Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn ymweld â Dinbych  ymhen dwy flynedd, gan edrych ymlaen i gynnal yr Eisteddfod ar dir Fferm Kilford,” meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

“Mae’n safle arbennig o dda, ac yn un a fu’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr yn 2001.  Bu’r Eisteddfod honno’n llwyddiannus ac felly fe fydd yn braf iawn dychwelyd yno yn 2013.

“Mae pobl ardal Dinbych wedi bod yn awyddus i gynnig cartref i’r Eisteddfod ers tipyn, felly mae’n braf iawn bod mewn sefyllfa i gyhoeddi lleoliad yr Eisteddfod heddiw.

“Rydym yn gobeithio cychwyn ar y paratoadau’n fuan, a byddwn yn galw cyfarfod cyhoeddus cyn y Pasg  er mwyn ennyn cefnogaeth pobl ym mhob rhan o’r sir, gan edrych ymlaen i gydweithio eto gyda thrigolion yr ardal.”

Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Wrecsam eleni a Bro Morgannwg yn 2012.