Y diweddar Gwynfor Pierce Jones (llun oddi ar ei dudalen Facebook)
Noswyl Nadolig, bu farw un o haneswyr mwya’ brwdfrydig y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru.

Roedd y Dr Gwynfor Pierce Jones yn 60 oed, ac yn byw yn Nhal-y-sarn, Dyffryn Nantlle.

Roedd yn awdurdod ar hanes ac archeoleg y chwareli llechi, y trenau bach a’r peiriannau fuodd yn eu gwasanaethu, yn ogystal â bywyd y chwarelwr.

Cyhoeddodd ddwy gyfrol – y gynta’, Cwm Gwyrfai: The Quarries of the North Wales Narrow Gauge and the Welsh Highland Railways, ar y cyd ag Alun John Richards yn 2004; a’r ail, Chwarelyddiaeth Dyffryn Nantlle, yn 2008.

Roedd yn mynd â phobol ar deithiau cerdded o gwmpas hen chwareli ei fro enedigol, ac yn darlithio o’r frest i bob math o gynulleidfaoedd.

Roedd Gwynfor Pierce Jones hefyd yn gefnogwr brwd o fandiau pres – yn aelod ac yn gyn-ysgrifennydd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle, ac wedi bod yn chwarae’r bas i Fand Porthaethwy nos Sul (Rhagfyr 22) mewn gwasanaeth carolau yn Y Felinheli.